
Opera i gofio trychineb Pwll Glo Gresffordd ar restr fer Gwobr Ivor Novello
Mae opera sy'n nodi 90 mlynedd ers trychineb Glofa Gresffordd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr Ivor Novello.
Mae'r gwaith un act, Gresffordd – I’r Goleuni ‘Nawr, yn adrodd hanes trychineb y pwll glo yn 1934 a laddodd 266 o lowyr a gadael ôl enfawr ar gymuned Wrecsam.
Fe gafodd y gwaith ei gyfansoddi gan y cerddor o Wrecsam, Jonathan Guy, a Grahame Davies, y libretydd a fagwyd yng Nghoedpoeth.
Dywedodd Jon, a gyfansoddodd y sgôr, a Grahame, a ysgrifennodd y geiriau, fod "ias wedi mynd lawr asgwrn cefn" y ddau pan glywsant eu bod wedi cyrraedd y rhestr fer derfynol ar gyfer Gwobrau Clasurol Ivor Novello 2025 - un o'r gwobrau mwyaf mawreddog ym myd cerddoriaeth Prydain.

Roedd mwy na 500 o ddynion yn gweithio o dan y ddaear, cyn i ffrwydrad ddod a dinistr i’r pwll yn oriau mân y bore 22 Medi, 1934.
Roedd nifer y gweithwyr ar y safle yn llawer mwy na'r arfer gan fod llawer wedi dyblu eu shifftiau er mwyn iddyn nhw allu gwylio gêm bêl-droed Wrecsam yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw.
Bu farw 261 o bobl o ganlyniad i'r ffrwydrad, gyda dim ond chwech o'r glowyr yn llwyddo i ddringo allan trwy'r mwg a'r llwch, a dianc o'r tanau tanddaearol a oedd yn lladd eu cydweithwyr.
'Pwysig eu hanrhydeddu'
Yn dilyn y perfformiad cyntaf, cafwyd nifer o berfformiadau eraill o'r opera, gan gynnwys fersiwn Gymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni.
Yn ôl Jon Guy, roedd cyrraedd rhestr fer y gwobrau yn y categori ar gyfer y Cyfansoddiad a Chyfranogiad Cymunedol Gorau yn un o eiliadau mwyaf balch ei fywyd.
Dywedodd: "Er bod y pyllau bellach wedi cau, mae'r atgofion yn parhau. Maen nhw wedi cael eu trosglwyddo drwy'r cenedlaethau ac mae'r cysylltiadau cymunedol a ffurfiwyd yn y pentrefi a'r trefi glofaol hynny yn parhau i fod yn gryf heddiw.
"Roedden ni'n teimlo ei bod hi'n bwysig eu hanrhydeddu a gwneud cyfiawnder â'u stori drwy'r opera.”

Ychwanegodd Grahame Davies: "Un o'r pethau mwyaf teimladwy am yr holl brosiect hwn yw gweld faint mae'n ei olygu i bobl yn lleol.
"Ym mhob un o'r perfformiadau cafwyd derbyniad cynnes iawn, gyda llawer yn eu dagrau, yn dweud pa mor bwysig yw hi bod y stori hon yn cael ei hadrodd.
"Roedd fy nhaid yn gweithio yn y diwydiant glo yn ardal Wrecsam, ac roedd fy hen daid yn arweinydd glowyr yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar adeg y trychineb.
"Ond mae'n drawiadol cyn lleied o bobl sy'n gwybod amdano, hyd yn oed yng Nghymru. Pan ystyriwch chi mai dim ond 90 mlynedd yn ôl y digwyddodd yn un o drefi mwyaf Cymru, mae'n syndod cyn lleied o bobl sy'n gwybod amdano.
"Rwy'n gobeithio'n fawr felly y bydd yr opera yma’n helpu i sicrhau bod y drasiedi hanesyddol hon yn parhau yn ein cof."
Bydd enillwyr Gwobrau Clasurol Ivor Novello yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn Llundain, ar 11 Tachwedd.