Pobl o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru'n parhau i brofi cyfraddau uwch o ganser
Mae ffigurau newydd yn dangos bod pobl sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn parhau i brofi cyfraddau uwch o ganser na'r rhai yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Mae'r adroddiad diweddaraf yn datgelu fod cyfradd achosion canser 20% yn uwch yn y pumed mwyaf difreintiedig o'r boblogaeth o'i gymharu â'r pumed lleiaf difreintiedig yn 2022.
Mae'r bwlch hwn wedi aros yr un fath i raddau helaeth ers 2006.
Cafodd y gwaith ymchwil ei gyhoeddi gan Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Roedd dros hanner yr holl achosion newydd o ganser yng Nghymru yn 2022 mewn pobl 70 oed neu hŷn.
Pandemig Covid
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi, er bod nifer yr achosion wedi gostwng yn ystod blwyddyn lawn gyntaf pandemig Covid-19 yn 2020, mae nifer yr achosion yn 2022 yn awgrymu dychweliad rhannol i dueddiadau cyn y pandemig a chynnydd yn dilyn oedi mewn diagnosis mewn rhai mathau o ganser.
Dywedodd yr Athro Dyfed Wyn Huws, Cyfarwyddwr Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae nifer cyffredinol y bobl sy’n cael diagnosis o ganser yng Nghymru wedi cynyddu dros y ddau ddegawd diwethaf.
"Mae hyn oherwydd newidiadau ym maint y boblogaeth, strwythur oedran y boblogaeth a phatrymau blaenorol o ffactorau risg canser sy'n effeithio ar wahanol grwpiau yn y gymdeithas dros amser. Fodd bynnag, mae'r bwlch parhaus mewn cyfraddau canser rhwng ein cymunedau mwyaf a lleiaf difreintiedig yn parhau i fod yn destun pryder."
Mae'r adroddiad diweddaraf ar Nifer yr Achosion o Ganser yng Nghymru 2002–2022 wedi cynnal dadansoddiad newydd o gam adeg diagnosis yn ôl ardal, gan ddangos bod lefel yr amddifadedd ardal yn gysylltiedig â'r cam y caiff canser ei ddarganfod.
Roedd cyfraddau diagnosis o ganser yr ysgyfaint a chanser y coluddyn yn y cyfnod hwyr yn uwch na’r cyfnod cynnar ar draws pob lefel o amddifadedd ardal.
Roedd y gwahaniaethau hyn yn ehangach yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, yn enwedig ar gyfer canser yr ysgyfaint.
'Gwraidd achosion'
Ychwanegodd yr Athro Huws: “Mae atal canser a lleihau anghydraddoldebau mewn cyfraddau canser yn gofyn am fynd i’r afael â gwraidd achosion cymdeithasol ffactorau risg a all arwain at ganser.
"Mae'r rhesymau pam mae pobl yn ysmygu, yn mynd dros bwysau ac yn ordew, neu'n yfed gormod o alcohol, er enghraifft, yn gymhleth, ac y tu allan i'r gwasanaeth iechyd.
"Fodd bynnag, mae gwasanaethau'n bodoli i helpu pobl i ymdopi â rhai o'r problemau hyn unwaith y byddant yn digwydd, fel ein gwasanaethau 'Helpa Fi i Stopio' a 'Pwysau Iach, Byw’n Iach'. Gellir atal rhai mathau o ganser, fel canser ceg y groth a rhai mathau o ganser y geg a'r gwddf, yn hawdd gyda'r brechlyn HPV effeithiol."
Am y tro cyntaf, mae'r adroddiad yn cynnwys dadansoddiad o nifer yr achosion o ganserau niwroendocrin a chanser yr ysgyfaint o fath celloedd bach.