The Traitors: Charlotte Church wedi 'dysgu gymaint am fy hunain'
Rhybudd: Mae yna ‘spoilers’ am gyfres The Celebrity Traitors yn yr erthygl hon.
Mae Charlotte Church wedi dweud ei bod hi wedi “dysgu gymaint am fy hunain” ar ôl cymryd rhan yng nghyfres selebs o The Traitors eleni.
Roedd y gantores o Gaerdydd ymhlith 19 o sêr gwahanol a gymerodd rhan, yn y gobaith o ennill £100,000 ar gyfer elusen o’u dewis.
Ond Church yw’r seren ddiweddaraf i gael ei “llofruddio” yn dilyn pennod ddiwethaf y gyfres nos Fercher.
“Dwi wedi dysgu eitha’ dipyn am fy hunain,” meddai.
“Dwi wedi dysgu fy mod i’n teimlo pethau yn ddwys iawn, ac o’n i’n gwybod hynny beth bynnag.
"Ond ‘nes i feddwl byddwn i wedi gallu diffodd hwnna ychydig bach yn fwy, ond o’n i rili methu gwneud.”
'Hapus iawn'
Bwriad y rhaglen yw dilyn y cystadleuwyr wrth iddyn nhw geisio darganfod pwy yw’r bradwyr yn eu plith.
Roedd Charlotte Church ymhlith ffyddloniaid y gyfres, a hithau’n “hapus iawn” na chafodd ei dewis i fod yn fradwr.
“Dwi'n meddwl hyd yn oed os oedd y bradwyr wedi gofyn i mi ymuno gyda nhw, byddwn i wedi dweud na.
“Dwi ddim yn meddwl y byddwn i wedi gallu twyllo ar y lefel cyson yna.”
Mae’n dweud bod y profiad wedi “adfer fy ffydd mewn selebs,” a hithau’n falch o dreulio’r cyfnod gyda “phobl ddiddorol iawn.”
“Yn gyffredinol, dwi’n ceisio cadw draw o’r sin seleb, ac efallai dwi wedi eu beirniadu’n rhy lym.”
Ymhlith rhai o’r sêr sydd wedi bod yn rhan o’r gyfres y mae’r actor a darlledwr Syr Stephen Fry, y cyflwynydd teledu Kate Garraway, y comedïwr Alan Carr, y gantores Paloma Faith a’r darlledwr Clare Balding.
Mae’r rhaglen, sy’n cael ei chyflwyno gan Claudia Winkleman, yn cael ei ffilmio mewn castell yn ucheldiroedd yr Alban.
Llun: Yui Mok/PA Wire