Cadwyn sinemâu Cineworld 'ar fin mynd i'r wal'

Mae cwmni sinemâu Cineworld ar fin mynd i'r wal, yn ôl adroddiad gan y Wall Street Journal.
Daw'r newyddion ddyddiau'n unig ar ôl i'r cwmni gyhoeddi fod trafodaethau wedi eu cynnal i geisio achub y cwmni yn sgil dyledion o dros $4.8 biliwn.
Mae'r cwmni, sy'n werth ychydig dros £100m, wedi rhoi'r bai ar ddiffyg ffilmiau blockbuster yn dilyn y pandemig.
Yn ôl adroddiadau, fe fydd y cwmni yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ar ôl methu talu ei ddyledion.
Darllenwch fwy yma.
Llun: Elliot Brown / Flickr