Dryswch dros hawl chwaraewr pêl-droed dawnus i gynrychioli Cymru

Enzo Romano

Mae dryswch mawr a fydd pêl-droediwr ifanc o Gymru yn gallu chwarae dros ei wlad wedi i'w gais am ddinasyddiaeth Brydeinig gael ei wrthod.

Cafodd Enzo Romano ei eni yng Nghaerdydd yn 2009 i rieni o'r Eidal a Sbaen. Dros y blynyddoedd mae wedi chwarae i dimau ieuenctid Cymru.

Roedd yn credu fod ei "freuddwyd" o gynrychioli Cymru "ar ben" wedi i'w deulu gael gwybod yr wythnos diwethaf fod ei ddinasyddiaeth Brydeinig wedi cael ei gwrthod am yr eildro.

Ar ôl i Newyddion S4C gysylltu â'r Swyddfa Gartref nos Fawrth, cadarnhaodd llefarydd fod yr ail gais wedi ei wrthod. Ond fe ddywedodd y llefarydd eu bod wedi "cytuno i ail agor yr achos er mwyn ystyried a oes tystiolaeth newydd gan y teulu i'w chyflwyno."  

Cefndir yr achos

Ym mis Tachwedd 2024 fe wnaeth Newyddion S4C adrodd fod y Cymro ifanc yn wynebu posibilrwydd na fydd yn cael chwarae dros ei wlad eto wedi i'w gais cyntaf am ddinasyddiaeth Brydeinig gael ei wrthod.

Gan fod Enzo nawr yn 16 oed, mae angen pasbort Prydeinig neu ddinasyddiaeth Brydeinig arno er mwyn chwarae dros Gymru.

"Roedd Enzo yn ei ddagrau, wedi'i ddinistrio gan hyn," meddai ei dad, Antonio Romano ar ôl iddo dderbyn y llythyr yr wythnos diwethaf yn nodi fod y cais wedi ei wrthod.

"Dyw e ddim yn deall pam fod ei wlad ei hun yn ei wrthod. Fe wnaeth e gloi ei hun yn ei ystafell wely am oriau.

"Dywedodd, 'Dad, dwi eisiau chwarae dros Gymru, fy ngwlad enedigol.'

"Rydym wedi bod yn brwydro am ddwy flynedd i wireddu ei freuddwyd."

Mae Enzo wedi gwrthod cynigion gan Sbaen a'r Eidal i chwarae i'w timoedd ieuenctid, gan ei fod eisiau cynrychioli Cymru.

Mae Newyddion S4C hefyd yn ymwybodol bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cynorthwyo Enzo a'i deulu ym mhob ffordd yn ystod y broses hon.

Image
Enzo ac Antonio Romano
Enzo ac Antonio ar ôl un o gemau Enzo i dîm dan 16 Cymru (Llun: Antonio Romano)

Pam nad yw Enzo yn gallu chwarae dros Gymru?

Yn achos Enzo, Deddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 yw'r gyfraith berthnasol, gan fod Enzo wedi cael ei eni yn y DU a gadael y wlad cyn Brexit.

Pan oedd yn wyth oed arwyddodd i Barcelona a symudodd ei deulu i Sbaen lle maen nhw'n parhau i fyw.

Yn ôl y Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig "mae unigolyn sy’n cael ei eni yn y DU yn ddinesydd Prydeinig yn awtomatig o'r cyfnod pryd gafodd ei eni, yn yr achos lle mae un o’i rieni yn Brydeinig neu wedi ymgartrefu yma."

Symudodd Antonio i Gaerdydd ym mis Medi 2006 a'i wraig, Awilda yn 2007.

Roedd Antonio wedi byw a gweithio yng Nghymru am gyfnod o ddeng mlynedd. Roedd felly yn credu fod ganddo statws preswylydd parhaol (permanent residence).

Ond mae penderfyniad y Swyddfa Gartref yn nodi nad oes gan Antonio statws preswylydd parhaol gan nad oedd yn "cyrraedd y trothwy ar gyfer person cyflogedig".

Yn ôl y Swyddfa Gartref, ennill cyflog o £7,500 y flwyddyn cyn treth am gyfnod o bum mlynedd yn olynol yw'r trothwy ar gyfer "person cyflogedig" ar y pryd, ac nid oedd Antonio wedi cyrraedd y trothwy hwn.

Mae gan Lywodraeth y DU ddogfen sydd yn gosod canllawiau ar gyfer cyflwyno cais dinasyddiaeth Brydeinig ar gyfer plentyn.

Nid yw'r canllawiau hynny yn nodi bod angen i berson ennill isafswm o gyflog er mwyn cael eu hystyried fel "person cyflogedig."

Image
Ystafell wely Enzo yn Barcelona
Ystafell wely Enzo yn Barcelona (Llun: Antonio Romano)

Mae Antonio yn credu ei fod wedi ei gamarwain gan ei fod yn dweud nad oedd y wybodaeth berthnasol yn y canllawiau.

"Os wyt ti'n mynd i dudalen y Swyddfa Gartref a gwirio'r holl ofynion, mae Enzo yn gymwys ar gyfer dinasyddiaeth," meddai.

"Mae'r cais yn costio dros £2,000 a does dim ad-daliad os chi'n cael eich gwrthod. Felly chi'n edrych ar y gofynion a gweld bod chi'n gymwys, wedyn gwneud cais.

"Chi'n anfon yr holl ddogfennau ar gyfer hynny, ac yna mae'n cael ei wrthod oherwydd cyfraith arall, sydd heb ei chynnwys ar y wefan. Dyw e ddim yn deg.

"Weithiau dwi'n meddwl y dylai'r gyfraith fod yn decach i bobl sydd wedi'u geni yn y DU.”

Yn ôl y Swyddfa Gartref, does dim modd iddyn nhw ymateb i sylwadau Antonio Romano, am fod yr achos yn dal i fod yn weithredol.   

Pan gysylltodd Newyddion S4C ag Antonio Romano i nodi sylwadau'r Swyddfa Gartref am ail agor yr achos, dywedodd fod hynny yn ei wneud yn hapus iawn. 

Doedd y Swyddfa Gartref ddim wedi cysylltu â'r teulu i nodi'r datblygiad diweddaraf. 

Image
Enzo Romano (crys coch) yn ymarfer gyda Chymru
Enzo Romano (crys coch) yn ymarfer gyda Chymru (Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru)

Yn ôl rheolau cymhwyster (eligibility) FIFA, mae angen i chwaraewr fod yn ddinesydd Prydeinig er mwyn gallu cynrychioli un o dimau'r DU.

Hyd yma mae Enzo wedi gallu chwarae i dimau ieuenctid Cymru gan fod ganddo dystysgrif geni yn profi ei fod wedi ei eni yng Nghaerdydd.

Ond o 16 oed ymlaen mae timau ieuenctid Cymru yn dechrau chwarae gemau rhagbrofol yr Euros a Chwpan y Byd, sydd yn golygu teithio dramor.

Nid oes gan Enzo basbort Prydeinig sydd yn golygu na fydd yn gallu cynrychioli Cymru.

Ar hyn o bryd mae Enzo yn chwarae i Villasar de Dalt yn y Liga Elit yn Sbaen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.