Medalau aur i Finucane a Morris yng ngystadleuaeth Trac Ewrop
Mae Emma Finucane wedi ennill medal aur yng nghystadleuaeth UEC Trac Elit Pencampwriaeth Ewrop yn Nhwrci.
Daeth y Gymraes 23 oed o Gaerfyrddin, sydd yn rhan o dîm Prydain Fawr, i'r brig yn y ras wîb.
Cafodd Anna Morris, 30 oed o Gaerdydd, hefyd y fedal aur yn ras yr omnium.
Roedd Finucane wedi gosod record byd newydd yn ystod yr amser treialu cyn cychwyn y ras ddydd Llun.
Yn y ffeinal fe lwyddodd i ennill aelod arall o dîm Prydain Fawr, Sophie Capewell o 0.045 eiliad.
Wedi'r fuddugoliaeth dywedodd Finucane bod ennill y fedal yn "golygu cymaint iddi".
Anna Morris oedd y cryfaf yn y ras omnium gan orffen 13 pwynt o flaen Anita Stenberg o Norwy. Dywedodd bod y "crys Ewropeaidd yn arbennig iawn".
Mae Prydain wedi ennill pedair medal hyd yn hyn ym Mhencampwriaeth Ewrop yn Nhwrci.
Llun: British Cycling