Pwysau ar Starmer i ddatgelu popeth am benodiad Mandelson

Mandelson/Starmer/PA

Mae disgwyl i'r Ceidwadwyr geisio gorfodi Llywodraeth y DU i ryddhau'r holl bapurau yn gysylltiedig gyda phenodiad yr Arglwydd Mandelson i'w swydd fel llysgennad yr UDA.

Mae Syr Keir Starmer yn dod o dan bwysau cynyddol wedi iddo benderfynu penodi Peter Mandelson i'r swydd. Daw hyn yn sgil yr hyn sydd wedi dod i'r amlwg am ymwneud Mandelson gyda'r troseddwr rhyw Jeffrey Epstein.

Cafodd y gwleidydd y sac fel llysgennad Prydain yn yr UDA'r llynedd oherwydd ei gysylltiadau gydag Epstein.

Mae'r heddlu wedi dechrau ymchwiliad troseddol i honiadau fod yr Arglwydd Mandelson wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i Epstein.

Ddydd Mercher bydd Peter Mandelson yn gadael Tŷ'r Arglwyddi.

Bydd arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch yn defnyddio mecanwaith hynafol a adnabyddir fel humble address motion. Mae hwn yn cynnwys gweld pa gamau y cymerodd swyddfa'r Cabinet i sicrhau ei fod yn briodol. Mae hefyd yn cynnwys cyhoeddi'r e-byst rhwng pennaeth staff y Prif Weinidog a'r Arglwydd Mandelson a'i gysylltiad ag Epstein a'r cofnodion ynglŷn â'r penodiad.

Mae'r mecanwaith yma os ydy o yn cael ei basio yn orfodol ar weinidogion.

Fe ddywedodd Mrs Badenoch ei bod yn gobeithio y bydd rhaid ASau Llafur yn "uno gyda ni i ymladd am y gwir". Daw ei sylwadau yn sgil dyfalu y gallai rhai gwleidyddion Llafur ar y meinciau cefn ymatal am eu bod yn flin am y sgandal.

Mae rhif 10 wedi ychwanegu gwelliant i'r mecanwaith sydd yn dweud y dylai'r holl ddogfennau gael eu cyhoeddi "gan eithrio papurau sydd yn rhagfarnu yn erbyn Prydain mewn materion o ddiogelwch cenedlaethol neu berthnasau rhyngwladol".

Llun: Carl Court/PA 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.