Dylanwadwraig o Gymru 'wedi’i siomi' gan ymddiheuriad clwb pêl-droed a wnaeth hwyl am ei hatal dweud
Mae'r ddylanwadwraig Jessie Yendle wedi cael siom, ar ôl iddi deithio i’r Almaen i dderbyn ymddiheuriad gan glwb pêl-droed am fideo oedd yn cynnwys clip ohoni a’i hatal dweud.
Ond "ymarfer ticio blychau" oedd hynny yn ei barn hi, er i glwb Borussia Dortmund ddod â hi i’r Almaen ar gyfer y cyfarfod.
Mae gan Jessie sydd â'r enw @mimidarlingbeauty ar-lein, fwy na thair miliwn o ddilynwyr ar TikTok.
Mae hi’n defnyddio’i phlatfform i godi ymwybyddiaeth o amhariadau lleferydd ac i ymgyrchu dros well cynrychiolaeth a chefnogaeth.
Yr haf diwethaf, cyhoeddodd Borussia Dortmund fideo a oedd yn cynnwys cyfraniad Jessie ar raglen Good Morning Britain, pan roedd atal dweud arni. Roedd y fideo wedyn yn newid yn sydyn i drac dawnsio gyda lluniau o un o chwaraewyr y clwb.
Cafodd y fideo ei wylio dros 700,000 o weithiau cyn i’r tîm, sef ail dîm pêl-droed mwyaf yr Almaen, ei ddileu.
Y cyfarfod
Fe wnaeth Jessie gyfarfod â swyddogion o Dortmund dros y penwythnos. Mae'n dweud nad oedd hi'n teimlo bod y clwb wedi addo newidiadau i ddadwneud y niwed achosodd y fideo.
Roedd Jessie yn ddiolchgar bod Dortmund wedi cwympo ar eu bai a dod â hi i’r Almaen i drafod yr hyn ddigwyddodd.
Fe wnaeth Jessie gynnig gweithio gyda’r clwb er mwyn hyfforddi staff a chefnogi ffans sydd ag amhariadau lleferydd eu hunain.
Dywedodd Jessie: "Mae’r clwb yn dal i ymddiried yn ei dîm cyfryngau cymdeithasol, ac nid oes sôn am unrhyw gynllun i godi ymwybyddiaeth am y gymuned amhariadau leferydd.
"Fe wnaethon nhw drafod cymunedau eraill, fel y gymuned fyddar a phobl awtistig, ond doedd dim sôn am fy nghymuned i."
Ychwanegodd Jessie nad oedd hi’n gallu stopio meddwl am nifer y ffans wyliodd y fideo a chwerthin heb ddeall bod ei nam lleferydd yn rhan o’i bywyd.
Mae’r clwb wedi estyn ymddiheuriadau pellach at Jessie a mynnu eu bod wedi dysgu o’r camgymeriad.
"Mae’n siom i weld pethau fel hyn o dîm fel hyn - maen nhw i fod yn esiampl i eraill," meddai.
Mae gan Jessie ddeiseb sydd â dros 10,000 o lofnodion yn cefnogi creu symbol ar gyfer amhariadau lleferydd.