Andrew wedi gadael y Royal Lodge

Andrew Mountbatten-Windsor

Mae Andrew Mountbatten-Windsor wedi gadael ei gartref yn Windsor a symud i Stad Sandringham yn Norfolk.

Y gred yw ei fod yn byw mewn llety dros dro ar yr ystâd tra bod gwaith adnewyddu yn cael ei wneud ar ei gartref parhaol.

Mae disgwyl iddo symud i'w gartref parhaol erbyn mis Ebrill.

Ym mis Hydref 2025 fe ddywedodd y teulu brenhinol y byddai Andrew yn symud o'r Royal Lodge wedi i'r honiadau ddod i'r amlwg ynglŷn â'i berthynas gyda Jeffrey Epstein. Fe gollodd ei deitl fel tywysog ar yr un pryd.

Mae Mountbatten-Windsor wastad wedi gwadu gwneud unrhywbeth o'i le. 

Mae Heddlu Thames Valley wedi dweud ei bod yn ymchwilio honiadau bod menyw wedi ei hanfon i Brydain gan Epstein ar gyfer gweithred rywiol gydag Andrew.

Yn ôl cyfreithwyr sydd yn cynrychioli'r fenyw fe wnaeth hi dreulio'r noson gydag Andrew yn 2010 a chael taith o gwmpas Palas Buckingham. Roedd y fenyw, sydd ddim yn Brydeinwraig yn ei 20au ar y pryd.

Dyma'r tro cyntaf mae un o oroeswyr y pedoffilydd Epstein wedi honni bod gweithred rywiol wedi digwydd yn un o gartrefi'r Teulu Brenhinol. 

Llun: Reuters 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.