'Angen i wyliau Cymraeg gael effaith barhaol ar y cymunedau sy’n eu cynnal'

Delyth Jewell Eisteddfod

Mae angen i wyliau mawr y Gymraeg gael effaith barhaol ar y cymunedau sy’n eu cynnal, yn ôl adroddiad gan un o bwyllgorau'r Senedd.

Mae Pwyllgor y Gymraeg yn galw am fframwaith cenedlaethol i sicrhau bod gwyliau fel eisteddfodau yn cael effaith barhaol ar gymunedau. 

Daw'r alwad wrth i'r pwyllgor gyhoeddi eu hadroddiad Cymraeg i bawb? sy'n edrych ar yr heriau sy'n wynebu ardaloedd lle nad yw'r Gymraeg yn brif iaith.

Daeth yr adroddiad i'r casgliad fod "diffyg hyder" yn rhwystro pobl rhag dysgu a defnyddio'r iaith, gyda phrinder cyfleoedd hefyd yn rhwystr.

Yn sgil hynny mae'r pwyllgor yn galw am greu cronfa a fyddai'n cefnogi mentrau iaith a phartneriaid lleol i gyflwyno rhaglenni ar ôl gwyliau.

Mae'r pwyllgor hefyd yn dweud ei bod yn "hanfodol" bod teuluoedd incwm isel yn cael mynediad i wyliau mawr am gost fechan, neu’n rhad ac am ddim.

O ran deall sut mae gwyliau yn meithrin hyder ac yn cynyddu defnydd o'r iaith bob dydd, mae'r adroddiad yn pwysleisio'r angen am waith ymchwil cryfach.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod eisoes yn "cymryd camau mewn nifer o feysydd" i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Fe aeth ymlaen i ddweud y bydd yn ymateb yn llawn i argymhellion yr adroddiad maes o law.

'Rhaid i’r Gymraeg fod yn iaith fyw'

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor y Gymraeg, Delyth Jewell AS, bod yn rhaid i'r llywodraeth weithredu i sicrhau bod y Gymraeg yn iaith fyw.

"Mae’r Gymraeg yn perthyn i bob un ohonom yng Nghymru, ni waeth a ydym ni’n ei siarad, neu beidio," meddai mewn datganiad.

"Ond mae ein hymchwiliad yn dangos diffyg hyder ar ran cymaint o bobol a diffyg cyfleoedd a lleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd, yn enwedig mewn ardaloedd lle nad yw’r Gymraeg yn cael ei chlywed yn aml.

"Mae gwyliau, grwpiau cymunedol, gweithleoedd a thechnolegau newydd i gyd yn chwarae rhan bwerus wrth roi bywyd i’r iaith. Eto i gyd, heb gynllunio hirdymor, buddsoddiad priodol ac ymrwymiad i feithrin momentwm, ry’n ni mewn perygl o golli’r cynnydd a wnaethom eisoes."

Ychwanegodd: "Os ydym ni wir eisiau miliwn o siaradwyr Cymraeg, ac i’r siaradwyr hynny ddefnyddio’r iaith o ddydd i ddydd, yna mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn feiddgar, yn rhagweithiol ac yn uchelgeisiol. Rhaid i’r Gymraeg fod yn iaith fyw, nid dim ond iaith dysg."

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi ymrwymo i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 ac rydyn ni’n cymryd camau mewn nifer o feysydd i gyrraedd y nod, gan gynnwys gwella presenoldeb y Gymraeg ar lwyfannau digidol a thrwy ddeallusrwydd artiffisial.

"Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, a thrwy ariannu teuluoedd incwm isel i fynychu’r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod yr Urdd - a bod hyn bellach yn rhan o gyllidebau craidd - rydym yn dileu rhwystrau i gymryd rhan fel y gall pawb fwynhau ein gwyliau cenedlaethol. 

"Rydyn ni’n diolch i'r Pwyllgor am ei waith manwl ac yn croesawu’r gydnabyddiaeth o'r sylfeini cadarn sydd eisoes mewn lle i gefnogi a hyrwyddo'r Gymraeg, a byddwn yn ymateb yn llawn maes o law."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.