Starmer wedi gwneud 'camgymeriad' penodi Mandelson medd Eluned Morgan
Mae Prif Weinidog Cymru wedi disgrifio penodiad yr Arglwydd Peter Mandelson fel llysgennad yr Unol Daleithiau fel "camgymeriad".
Wrth siarad gyda Channel 4 News dywedodd y Farwnes Eluned Morgan na fyddai hi "byth wedi ei benodi. Mae brand Mandelson o wleidyddiaeth Llafur yn estron i wleidyddiaeth Llafur Cymru."
Ond dywedodd fod Syr Keir Starmer wedi "gwneud y penderfyniadau cywir" ar y "materion mawr".
Fis Chwefror fe wnaeth Eluned Morgan amddiffyn y Prif Weinidog pan ddywedodd arweinydd Llafur yr Alban, Anas Sarwar y dylai rhoi'r gorau i'w swydd. Fe wnaeth Morgan ddisgrifio Starmer fel "dyn anrhydeddus".
Gofynnwyd iddi a oedd hi yn dal i feddwl mai Syr Keir oedd yr arweinydd gorau ar gyfer Llafur. Dywedodd: "Dwi'n credu mewn cyfnod o ansefydlogrwydd, dwi'n credu pan mae perygl byd eang, pan mae'n costio i bobl o safbwynt prisiau petrol ac olew, yr hyn chi angen yw rhywun i wneud y penderfyniadau cywir ar y materion mawr.
"Dyna mae e wedi gwneud pan mae'n dod i'r sefyllfa yn y Gwlff".
Fe wnaeth hi wrthod dweud os oedd hi eisiau gweld y Prif Weinidog yn ymuno gyda Llafur Cymru wrth iddyn nhw ymgyrchu ar gyfer etholiad y Senedd yn ystod yr wythnosau nesaf.
Mae'r polau piniwn wedi bod yn dangos yn gyson mae Plaid Cymru a Reform sydd ar y blaen gyda phôl piniwn YouGov ar gyfer ITV Cymru yn rhoi Llafur yn drydydd.
"Yr hyn dwi eisiau iddo fe wneud yw canolbwyntio ar geisio datrys y sefyllfa yn y Dwyrain Canol. Dyna'r ffordd orau i helpu pobl Cymru er mwyn dod a'r prisiau yna lawr," meddai Eluned Morgan.