Newyddion S4C

Streic arall ar y rheilffyrdd yn achosi rhagor o oedi i deithwyr

18/08/2022
Trenau

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynghori pobl i beidio â theithio ar y rheilffyrdd ddydd Iau wrth i fwyafrif y trenau ddod i stop, oherwydd streic gan Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffyrdd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT).

Daw’r gweithredu diweddaraf yn dilyn cyfres o streiciau gan sawl undeb dros yr wythnosau diwethaf oherwydd anghydfod gyda Network Rail dros gyflogau ac amodau gwaith staff.

Er nad oes anghydfod rhwng yr undeb a Thrafnidiaeth Cymru yn uniongyrchol, nid oes modd cynnal gwasanaethau gan mai Network Rail sy'n gyfrifol am seilwaith y rheilffyrdd.

Yn ôl Trafnidiaeth Cymru mae rhai gwasanaethau’n debygol o fod yn hynod o brysur o ganlyniad i amserlen gyfyngedig iawn.

Yr unig wasanaethau yn rhedeg fydd ar Linellau Craidd y Cymoedd yn Ne Cymru a gwasanaeth gwennol o Gaerdydd i Gasnewydd, gydag un trên yn rhedeg bob awr i bob cyfeiriad, rhwng 07:30 a 18:30.

Bydd gwasanaethau trên yn rhedeg rhwng gorsafoedd Caerdydd Canolog a Rhymni, Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful bob awr i'r ddau gyfeiriad rhwng 07:30 a 18:30.

Bydd trenau’n gweithredu rhwng Radur a Threherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful cyn 07:30 o’r gloch ac ar ôl 18:30. Bydd trafnidiaeth ffordd ar gael i gwsmeriaid deithio rhwng Caerdydd Canolog a Radur i'r ddau gyfeiriad, y tu hwnt i'r oriau hynny.

Mae disgwyl hefyd y bydd tarfu ar ddyddiau ar ôl y gweithredu diwydiannol. Ac mae cwsmeriaid yn cael eu cynghori i beidio â theithio ar drenau oni bai bod hynny'n angenrheidiol rhwng dydd Gwener 19 a dydd Sul 21 Awst.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.