Newyddion S4C

Athrawes yn cyfaddef iddi lofruddio ei chariad a chladdu ei gorff yn yr ardd

26/04/2024
Fiona Beal

Mae athrawes ysgol gynradd wedi cyfaddef iddi lofruddio ei chariad a chladdu ei gorff yn ei ardd.

Newidiodd Fiona Beal, 50 ei phle hanner ffordd drwy achos llys yn yr Old Bailey.

Roedd hi wedi llofruddio Nicholas Billingham, 42, rhwng mis Hydref a Thachwedd 2021 meddai.

Clywodd y llys bod Fiona Beal wedi ei chyhuddo o drywanu ei phartner i farwolaeth “mewn gwaed oer” cyn claddu ei gorff yn eu gardd.

Cafodd corff Nicholas Billingham ei ddarganfod bedwar mis a hanner ar ôl iddo gael ei weld ddiwethaf.

Cafodd yr athrawes, o Stryd Moore, Northampton, ei harestio ym mis Mawrth 2022 ar ôl i’r heddlu ddarganfod y corff.

Cafodd swyddogion fforensig a thimau chwilio arbenigol eu hanfon i'r cyfeiriad cyn i'r darganfyddiad gael ei wneud.

Clywodd y llys bod yr heddlu wedi dod o hyd i ddyddiadur oedd yn cofnodi ei gweithredoedd.

Yr wythnos diwethaf, dywedodd yr erlynydd Hugh Davies KC wrth y rheithgor fod Beal wedi anfon neges at nifer o bobl ar 1 Tachwedd 2021 - ac yn y dyddiau ar ôl hynny – yn dweud ei bod hi a Mr Billingham wedi dal Covid-19 a bod angen iddyn nhw hunan ynysu.

Ychwanegodd nad oedd “unrhyw dystiolaeth” bod Beal wedi cymryd prawf Covid.

Ar 8 Tachwedd, clywodd y llys fod Beal wedi anfon negeseuon at ei chwiorydd yn dweud ei bod hi a Mr Billingham wedi gwahanu, gydag un neges yn dweud iddo adael oherwydd ei fod wedi cael perthynas â dynes arall.

Dywedodd yr erlyniad fod y stori fod Mr Billingham wedi rhedeg i ffwrdd gyda dynes arall yn “hollol ffug”.

Clywodd y llys yn flaenorol mai dyma’r eildro i achos llys gael ei gynnal ar yr achos, gyda rheithgor gwahanol wedi’i ryddhau'r llynedd cyn clywed yr holl dystiolaeth am resymau cyfreithiol.

Mae’r Barnwr Mark Lucraft wedi cadarnhau y bydd Fiona Beal yn cael ei dedfrydu ar 29 a 30 Mai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.