Newyddion S4C

Caerdydd: Arestio dyn ar ôl i gar adael safle gwrthdrawiad gyda merch fach

26/04/2024
Sloper Road

Mae dyn wedi ei arestio ar ôl i ddelweddau camera cylch cyfyng ddangos car yn gadael safle gwrthdrawiad gyda merch fach yng Nghaerdydd.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Heol Sloper y brifddinas am 17.50 ddydd Sul, Mawrth 24.

Mae dyn 34 oed o Grangetown wedi’i arestio ar amheuaeth o yrru’n beryglus, o fethu â stopio cerbyd, ac o fethu ag adrodd am ddamwain yn ymwneud â cherbyd yr oedd yn ei yrru.

“Mae teledu cylch cyfyng yn dangos car yn mynd ar y palmant, yn gwrthdaro â merch fach, ac yn gyrru i ffwrdd,” meddai’r heddlu.

“Yn rhyfeddol, dim ond mân anafiadau a gafodd y ferch fach, ond roedd y digwyddiad yn un brawychus iawn iddi hi a'i theulu.”

Mae car y mae’r heddlu yn amau o fod yn gysylltiedig â’r achos wedi cael ei gymryd gan yr heddlu ac mae'n parhau i gael ei archwilio'n fforensig.

Mae teulu'r ferch wedi'i diweddaru.

“Mae’r mater yn cael ei gymryd o ddifrif ac mae’r ymchwiliad yn mynd rhagddo’n effeithiol,” meddai’r heddlu.

Mae’r dyn sydd wedi’i arestio wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol tra bod ymholiadau’n parhau.

Os gwelsoch y gwrthdrawiad hwn neu'r cerbyd dan sylw, cysylltwch â’r heddlu gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2400097157.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.