Cyfarfod arbennig i drafod pam na chafodd ysgol ganu yn y Gymraeg
Cyfarfod arbennig i drafod pam na chafodd ysgol ganu yn y Gymraeg
Bydd cyfarfod arbennig yn cael ei gynnal yn Abertawe nos Fawrth i drafod pam na chafodd ysgol gynradd leol ganu yn y Gymraeg mewn gŵyl gymunedol yn y Mwmbwls.
Daw hyn yn dilyn cwyn gan bennaeth Ysgol Llwynderw yn seiliedig ar sylwadau'r Cynghorydd Rob Marshall, bu’n helpu i drefnu Gŵyl y Mwmbwls eleni. Mae Mr Marshall hefyd yn is-gadeirydd y pwyllgor diwylliant.
Mae’r gwyn yn nodi pedwar rheswm, sef eithrio’r Gymraeg a’r diwylliant, cynnwys amhriodol i blant ysgol gynradd, ymddygiad y Cynghorydd Rob Marshall, a llywodraethiant Cyngor Cymuned y Mwmbwls.
Mewn ymateb, dywedodd Rob Marshall mai’r rheswm dros ei benderfyniad i beidio cynnwys caneuon Gymraeg yn yr ŵyl ,oedd diffyg amser a’r pwysau ar y cyngor i gynnal y digwyddiad, ac nid sen i’r iaith Gymraeg.
Yn ôl un ymgyrchydd iaith, mae angen i’r cyngor weithredu ar frys i ddelio â’r sefyllfa.
“Ma'n anghredadwy yng Nghymru heddi' bod cynghorydd sy'n gyfrifol am ddiwylliant yn gweld hi'n amhosibl bod cân Gymraeg yn cael i channu mewn gŵyl,” meddai Heini Gruffudd.
"Dyma gyfle i'r iaith Gymraeg gael 'i defnyddio yn naturiol yn y gymuned, a nes ma' hynny'n digwydd ma' disgyblion ysgolion Cymraeg dan anfantais.
"Dyw ymddiheuro ddim yn ddigon, ma' hwnna ond yn ymddiheuro am be sydd wedi bod. Ma' raid iddyn nhw roi sicrwydd pendant bydd y Gymraeg yn cael 'i defnyddio yn y dyfodol, yn yr ŵyl nesaf, nid yn unig gan yr ysgol Gymraeg ond hefyd gan yr holl ysgolion Saesneg hefyd. Fel bod y Gymraeg yn dod yn ôl i'r Mwmbwls fel iaith gymunedol.”
Mewn ymateb i’r gwyn, mae’r cyngor cymuned wedi cyflwyno deg o argymhellion – gan gynnwys sefydlu gweithgor i ddiwygio’u darpariaeth iaith Gymraeg, llunio camau i sicrhau na fydd y sefyllfa yn digwydd eto, ac ymrwymiad i sicrhau hyfforddiant iaith Gymraeg i’r rhai sy’n ddi-gymraeg.
Mae’r cyngor hefyd yn dweud i ddiwylliant Cymraeg gael ei adlewyrchu yn ystod yr ŵyl.
Mae aelod lleol o’r Senedd wedi mynegi siom.
“Ma’ rhaid i ni gofio fod y ddwy iaith yng Nghymru yn cael eu trin yn gyfartal,” meddai Tom Giffard.
“Mae cyfrifoldeb ar y cyngor a chynghorwyr i fynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’r ddwy iaith, a dwi ddim yn meddwl digwyddodd hynny yma.”
Bydd y cyfarfod heno yn trafod pa gamau i'w cymryd yn sgil sylwadau'r cynghorydd.
Fe allai’r cyfarfod ystyried a ddylai Mr Marshall ymddiheuro wrth yr ysgol a symud o’i rôl fel is-gadeirydd y pwyllgor diwylliant.