Newyddion S4C

Ymwelwyr Llanberis: ‘Angen i Gyngor Gwynedd ddeffro'

17/08/2022

Ymwelwyr Llanberis: ‘Angen i Gyngor Gwynedd ddeffro'

Gyda chynifer o ymwelwyr yn heidio i lan Llyn Padarn pan fo'r tywydd yn braf, mae yna alwadau i Gyngor Gwynedd fuddsoddi ym mhentref Llanberis. 

Mae’n ardal o harddwch gyda mynediad hawdd at y mynyddoedd, teithiau cerdded a Llyn Padarn.

Ond yn ôl rhai pentrefwyr mae angen i Gyngor Gwynedd fuddsoddi yn y pentref i ymdopi â’r niferoedd sy’n ymweld â Llanberis.

Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Eric Baylis sy'n byw yn y pentref ac sy’n gwirfoddoli gyda grŵp Pentref Taclus Llanberis bod “angen i Gyngor Gwynedd ddeffro." 

Ychwanegodd bod angen i’r cyngor sylweddoli nad yw Llanberis fel unrhyw bentref arferol yn yr ardal, oherwydd fod cynifer o ymwelwyr yno yn ystod yr haf.

“Dwi ddim yn gwybod lle ‘da ni’n mynd efo hyn de. Pam ‘da ni’n gweld y forecast am y penwythnos yn gaddo tywydd braf ‘da ni’n gwybod yn union sut bydd hi yn Llanberis ‘ma.

“Yn ardal y Glyn neu'r Lagoons, does dim posib dod mewn yma efo car ar ôl amser cinio. Mae ceir allan ar y ffordd fawr, a does dim posib troi na dim byd yma.

"I raddau mae pobl y pentra' wedi colli eu pentra'."

Image
S4C
Mae Eric Baylis a gwirfoddolwyr eraill 'Pentref Taclus' yn casglu sbwriel bob penwythnos yn Llanberis.

Ychwanegodd Mr Baylis: “Mae yna lot fawr o bobl yn dod i’r ardal. Ma’ hi’n brysur ym mhob ardal o’r llyn. Oedd hi’n anhygoel y penwythnos diwethaf yma sut oedd hi ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Er bod Mr Baylis yn meddwl bod hi’n “grêt” bod y llyn yn cael gymaint o ddefnydd a bod pobl yn mwynhau'r ardal, mae effaith yr ymwelwyr yn gadael ôl negyddol ar y pentref ar adegau.

Mae parcio, sbwriel a gwersylla anghyfreithlon yn “broblem gyson” meddai. 

“Bore Sul fe wnaethon ni gasglu 13 o fagiau sbwriel mewn dwy awr, ac mae hogia’ Parc Padarn yn casglu bob dydd hefyd. Ond erbyn nos Sul roedd y biniau yn orlawn eto, ym mhob ardal bron.”

Image
S4C
 Mae ardal y 'Lagoons' ar lan Llyn Padarn yn boblogaidd iawn gydag ymwelwyr.

Mae Mr Baylis yn credu bod ardaloedd fel Llyn Tegid yn Y Bala yn cael eu rheoli yn “well ac yn fwy teg” i breswylwyr ac ymwelwyr.

“Os ‘da chi’n cymharu fama efo Llyn Tegid, Bala mae ‘na warden yn fanno. Cheith ‘na neb rhoi canŵ, paddle board na dim byd arall ar y llyn, ceith ‘na neb barcio yn nunlla yno heb dalu ffi o riw fath.

“Maen nhw’n aros dros nos a petha yn fama, be maen nhw’n neud gyda’i gwastraff dŵr a’u toiledau? Ac os oes ganddyn nhw doiledau ydy hynny. ‘Da ni’n dod ar draws budreddi ofnadwy bob bore dydd Sul de. Coeliwch chi fi, mae o yn digwydd bob wythnos.

Mae pentrefwyr Llanberis yn galw ar y Cyngor i fuddsoddi yn y pentref. 

Image
S4C
Pabell wedi ei osod ar ochr ffordd yn Llanberis yn ystod y tywydd poeth dros y penwythnos. 

Yn ôl Mr Baylis, mae angen mwy o finiau sbwriel, codi tal am barcio a defnyddio’r arian yna i gyflogi wardeiniaid dros dymor yr haf i gadw trefn ar barcio a gwersylla anghyfreithlon.

“Ma’ nhw yn dod yma heb dalu un geiniog. Os fysa nhw’n talu £5 y dydd, sydd i mi reit resymol dwn i ddim faint o arian fysa nhw’n neud. Ond maen nhw’n colli arian ac arian bysa’n gallu cael eu buddsoddi i gael warden i gadw’r lle 'ma yn dwt.”

Wrth ymateb i'r prysurdeb yn Llanberis dros y penwythnos, dywedodd Cynghorydd Llanberis Kim Jones: “Dwi’n teimlo yn ofnadwy o siomedig ar ôl gweld gymaint yn campio wrth ochr y Llyn, sydd yn dir preifat. Dwi hefyd yn teimlo bod staff Parc Padarn yn gwneud eu gorau i drio rheoli'r sefyllfa. 

“Mae’r adeg yma o flwyddyn lle mae’r tywydd yn braf yn achosi iddi fod yn ofnadwy o brysur yn y pentref. Mae Llanberis yn denu nifer helaeth o ymwelwyr ond mae yna ddiffyg parch at y bobl leol yn digwydd. 

"Dwi’n cytuno bod angen gweld newid i wella’r sefyllfa o ran wardeiniaid a’r amser mae’r wardeiniaid yn gweithio i reoli pethau fel sbwriel a champio anghyfreithlon." 

'Gweithio gyda'r gymuned leol'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Rydym yn gweithio gyda’r gymuned leol a phartneriaid o sefydliadau eraill i sicrhau fod Llanberis yn parhau i fod yn le braf i fyw, gweithio ac ymweld.

“Ar ddechrau’r tymor gwyliau, cafwyd adolygiad o’r biniau cyhoeddus sydd ar gael o gwmpas y pentref a chynyddwyd y nifer. Mae’r biniau yn cael eu gwagio’n rheolaidd ac mae swyddogion y Cyngor hefyd yn ymgymryd â’r gwaith o lanhau’r strydoedd a chodi sbwriel. 

“Rydym yn hynod ddiolchgar i wirfoddolwyr lleol ac ymwelwyr am eu gwaith o hel sbwriel ac mae gennym gynlluniau mewn lle i gefnogi eu gwaith orau ag y medrwn."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.