Jeremy Paxman yn rhoi'r gorau i gyflwyno University Challenge

Bydd Jeremy Paxman yn rhoi'r gorau i gyflwyno University Challenge wedi 28 mlynedd wrth y llyw.
Fe gafodd y newyddiadurwr ddiagnosis o glefyd Parkinson's y llynedd ac mae wedi siarad yn agored am y ffordd y mae wedi ceisio cydbwyso ei yrfa a'i driniaeth.
Mae wedi cyflwyno'r rhaglen gwis ar y teledu ers 1994 a bydd yn ffilmio ei gyfres olaf yn yr hydref, gyda'r bennod olaf yn cael ei darlledu'r haf nesaf.
Mae'r BBC eisoes wedi dewis ei olynydd, ac mae disgwyl i enw'r cyflwynydd newydd gael ei ddatgelu yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Darllenwch fwy yma.