Newyddion S4C

Teyrngedau i sylfaenydd cwmni Huws Gray

15/08/2022
John Llew

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i "un o ddynion busnes pwysicaf Cymru."

Roedd John Llewelyn Jones o Bwllheli, yn 80 oed ac yn un o sylfaenwyr cwmni Huws Gray.

Cwmni Huws Gray bellach yw'r cwmni cyflenwi offer adeiladu annibynnol mwyaf yn y Deyrnas Unedig, ac maent yn gweithredu o dros 200 o safleoedd ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban.

Fe ddechreuodd y cwmni yn 1990 yn y Gaerwen ger Llangefni, Ynys Môn gyda phedwar o weithwyr, ond erbyn heddiw mae’r cwmni yn cyflogi dros 5,000 o bobl.

Fe chwaraeodd John Llewelyn ran allweddol yn natblygiad a thyfiant y cwmni dros y 30 mlynedd diwethaf.

Un a ddaeth yw adnabod yn dda wrth gyflwyno rhaglen arbennig am ei waith ar gyfer BBC Radio Cymru, oedd y dyn busnes a'r cyflwynydd Gari Wyn.

Image
huws gray

'Entrepreneur o'i goryn i'w sawdl'

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Gari Wyn: "Heb os, John Llew oedd un o'r dynion busnes pwysicaf yn hanes y Gymru fodern. Roedd wir yn entrepreneur o'i goryn i'w sawdl.

"Allan o'r holl bobl y gwnes i gyfweld a chyfarfod yn ystod fy nghyfnod yn cyflwyno rhaglen ar fusnes a mentergarwch i Radio Cymru, John Llew gwnaeth fwyaf o argraff arna i.

"Roedd ei gyfraniad i'r maes adeiladu ac i'r economi yng Nghymru a thu hwnt yn anhygoel. Roedd ei weledigaeth i ddarparu'r offer gorau am y prisiau gorau i adeiladwyr yn graidd i lwyddiant y cwmni, ac felly bu John nes y pen olaf.

"Roedd hefyd yn bwysig iawn i John ei fod yn meithrin talent yn y byd busnes, a'i fod wedi datblygu unigolion o fewn y cwmni o fod yn gweithio ar lawr yr iard, i fod bellach yn gyfarwyddwyr ar y cwmni, gan hefyd sicrhau fod merched yn cael cyfle i ddatblygu yn y sector."

"Roedd yn ddyn cwbl hunan addysgedig, gan iddo adael yr ysgol yn 15 oed i fynd i helpu ei dad ar y loris. Bydd colled fawr ar ei ôl."

Roedd John hefyd yn llywydd anrhydeddus Clwb Criced Pwllheli, ac mewn datganiad, fe ddywedodd y clwb: “Gyda thristwch mawr y cyhoeddwn farwolaeth John Llew, ein llywydd anrhydeddus a ffrind i oll yn y clwb.

“Mae ein meddyliau efo’r teulu i gyd yn ystod y cyfnod trist yma.”

Roedd chwaraeon yn agos iawn at galon John Llewelyn, gan fod cwmni Huws Gray hefyd wedi bod yn noddwyr cyson cystadlaethau chwaraeon cenedlaethol ers ei sefydlu.

Mae John yn gadael ei weddw Joyce, eu dau o blant, Nia a Dylan a'u teuluoedd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.