Dan Lydiate i roi'r gorau i chwarae rygbi ar gyfer rôl hyfforddi
Mae’r blaenasgellwr Dan Lydiate wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi’r gorau i chwarae rygbi proffesiynol ar ddiwedd y tymor hwn.
Fe enillodd Lydiate 72 o gapiau dros Gymru a thri i Lewod Prydain ac Iwerddon.
Dywedodd Lydiate ei fod yn fwriad ganddo i symud i rôl hyfforddi gyda’r Dreigiau lle mae’n chwarae ar hyn o bryd.
Mae’n cael ei ystyried yn un o’r blaenasgellwyr gorau a mwyaf dinistriol i chwarae dros Gymru, ac mae'n nodedig am ei daclo isel.
Fe wnaeth Lydiate, sy’n 37 oed, ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru yn 2009 a’i un olaf yng Nghwpan y Byd 2023.
Fe chwaraeoedd dair gêm brawf i’r Llewod yn ystod eu taith yn Awstralia yn 2013.
Yn ogystal â dau gyfnod i’r Dreigiau, chwaraeodd Lydiate 90 o weithiau i’r Gweilch a chwaraeodd dymor allan yn Ffrainc gyda Racing Metro.
Fe enillodd bencampwriaeth y Chwe Gwlad ddwywaith gyda Chymru ac fe gafodd ei enwi yn chwaraewr y bencampwriaeth yn ystod ymgyrch Camp Lawn 2012.
Fe fydd yn chwarae ei gêm olaf i’r Dreigiau yn erbyn ei gyn glwb, y Gweilch, ddydd Sadwrn.
Inline Tweet: https://twitter.com/dragonsrfc/status/1915450695060238392