Dedfryd oes i ddyn o Gaerdydd am lofruddio ei bartner
Mae dyn o Gaerdydd a gafwyd yn euog o lofruddio ei bartner wedi cael ei garcharu am isafswm o 20 mlynedd.
Cafodd Victoria Thomas, 45, oedd yn fam i ddau o blant, ei thagu i farwolaeth gan ei phartner Alcwyn Thomas, 44, ar ôl iddo dreulio’r diwrnod yn yfed yn drwm ac yn cymryd cocên.
Cafwyd hyd i Ms Thomas mewn ystafell wely sbâr ar y llawr uchaf mewn tŷ roedden nhw’n ei rannu ar Heol Caerffili yng Nghaerdydd ym mis Awst y llynedd.
Roedd wedi gwadu ei fod wedi ei llofruddio ond fe'i cafwyd yn euog yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Mawrth.
Roedd Alcwyn Thomas wedi pledio’n euog i ddynladdiad cyn hynny gan ddisgrifio marwolaeth Ms Thomas fel “gweithred rywiol oedd wedi mynd o’i le.”
Fe fydd Mr Thomas bellach yn cael ei garcharu am isafswm o 20 mlynedd wedi iddo gael ei ddedfrydu ddydd Iau.
Pryderon
Fe gafodd Victoria Thomas ei gweld am y tro olaf am 21.26 ar nos Llun, 19 Awst 2024.
Roedd hi’n dychwelyd adref gyda Mr Thomas ar ôl treulio’r noson yn nhafarn The New Inn ar Heol Caerffili ac yna Club 3000 Bingo yng Ngabalfa.
Roedd Mr Thomas wedi yfed 16 peint o gwrw ac wedi bod yn cymryd cocên.
Ychydig wedi 23.00 fe wnaeth Mr Thomas anfon neges at ei chwiorydd yn dweud: “Rwy’n flin, dwi wedi gwneud rhywbeth mor wael.”
Cafwyd hyd i gorff Ms Thomas yn ystod oriau mân fore ddydd Mawrth, 20 Awst ar ôl i nith Mr Thomas ddechrau pryderu am les Victoria Thomas yn dilyn neges Mr Thomas y noson gynt.
Pan gyrhaeddodd yr heddlu, cafodd Mr Thomas ei ddarganfod yn cysgu ar y llawr yn eu hystafell gwely.
'Cysur'
Mewn datganiad, dywedodd teulu Victoria Thomas: “Ni fyddwn ni byth yn cael Vicki yn ôl ac mae hynny’n rhywbeth mae’n rhaid i ni fyw gydag am weddill ein hoes.
“Ond mae cael gwybod na fydd ei llofrudd yn byw gweddill ei ddyddiau ef mewn rhyddid yn rhoi rhyw faint o gysur i ni.”
Dywedodd eu bod nhw hefyd yn ddiolchgar i Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Erlyn y Goron a Mike Jones KC am eu cefnogaeth.
Dywedodd Uwch Swyddog Ymchwilio Heddlu De Cymru, y Ditectif Brif Arolygydd Matt Powell: “Roedd Victoria yn ferch, mam, chwaer, modryb a nith annwyl.
“Ni wnaeth Alcwyn Thomas ddangos unrhyw edifeirwch ac roedd yn parhau i honni mai gweithred rywiol oedd wedi mynd o’i le oedd achos marwolaeth Victoria.
“Doedd e ddim wedi gwneud unrhyw ymdrech i’w hadfywio na cheisio cael cymorth iddi. Ar ôl ei lladd hi fe aeth i gysgu yn eu hystafell wely.”
Dywedodd Mandy Wintle o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Arweiniodd gweithredoedd y diffynnydd at farwolaeth drasig Victoria.
“Nid oedd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn derbyn esboniad Alcwyn Thomas o farwolaeth Victoria, a chyflwynwyd tystiolaeth i’r rheithgor a arweiniodd at ei euogfarn.
“Dylai pawb deimlo’n ddiogel yn ei gartref ei hun, ac mae unrhyw honiad o gam-drin domestig yn cael ei gymryd o ddifrif.
“Rydym yn cydymdeimlo â theulu a ffrindiau Victoria, sydd wedi dioddef colled dorcalonnus.”