
Dynes drawsryweddol o Wynedd yn bwriadu gadael y DU wedi dyfarniad y Goruchaf Lys
Dynes drawsryweddol o Wynedd yn bwriadu gadael y DU wedi dyfarniad y Goruchaf Lys
Mae dynes drawsryweddol o Wynedd wedi dweud ei bod yn bwriadu gadael y wlad yn sgil dyfarniad y Goruchaf Lys wythnos yn ôl wrth ddiffinio beth ydi dynes dan gyfraith cydraddoldeb.
Yn ôl Stacy Winson o Wynedd, mae'r dyfarniad yn gwneud iddi deimlo "nad oes croeso" iddi yma yng Nghymru, ac mae'n poeni y gallai'r dyfarniad arwain at ragor o droseddau casineb tuag at bobl trawsryweddol.
Mae’r diffiniad yn nodi penllanw brwydr gyfreithiol hir a allai fod â goblygiadau mawr o ran sut mae hawliau sy'n seiliedig ar ryw yn berthnasol ar draws Yr Alban, Lloegr a Chymru.
Mae Wales Women Rights Network wedi croesawu’r dyfarniad gan ddweud ei fod yn rhoi diwedd ar sefydliadau yn “camddehongli” y gyfraith ac felly’n amddiffyn merched am flynyddoedd i ddod.
Wrth ddyfarnu’r wythnos diwethaf, dywedodd y Barnwr yr Arglwydd Hodge na ddylai’r penderfyniad gael ei weld fel buddugoliaeth i un ochr dros y llall, a phwysleisiodd fod y gyfraith yn dal i roi amddiffyniad rhag gwahaniaethu i bobl drawsryweddol.
'Beichio crio'
Ond degawd ers 'dod allan' yn drawsryweddol, mae Stacy Winson yn dweud bod y dyfarniad yn ergyd enfawr.
"Yn syth pan nes i glywed mi nesi ddechrau beichio crio," meddai.
"Roeddwn i'n gwybod yn syth bod hwnma'n meddwl bod rights fi gyd wedi mynd".
"Fod iwsio toiled wedi mynd, mynd i changing rooms a mwy a mwy roeddwn i'n meddwl amdano fo - mwya ypset oni'n mynd oherwydd oni'n realisio roedd hwnna'n meddwl 'swn i methu mynd allan am noson allan 'chos fasa rhaid ffeindio toiled a sa ddim toiled ar gael".
Gofynnwyd i’r Goruchaf Lys benderfynu ar y dehongliad cywir o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, sy’n berthnasol ledled Prydain.
Dywedodd yr Arglwydd Hodge mai'r cwestiwn pwysig oedd sut mae'r geiriau "menyw" a "rhyw" yn cael eu diffinio yn y ddeddfwriaeth.
Dywedodd wrth y llys yr wythnos diwethaf: "Penderfyniad unfrydol y llys hwn yw bod y termau menyw a rhyw yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn cyfeirio at fenyw fiolegol a rhyw biolegol".

Dywed Ms Winson pan ddaeth allan gyntaf iddi dderbyn ‘cam-driniaeth’ ac mae’n ofni y bydd y dyfarniad yn arwain at fwy o bobl yn y gymuned drawsryweddol yn wynebu problemau tebyg.
"Dwi jest yn teimlo does dim croeso i fi dim mwy," meddai.
"Dwi'n teimlo fel bod y lle 'ma sydd fod yn saff... Mae Prydain wedi bod imi erioed fel rhywle sydd efo rhyw ddarn o LGTB rights a dwi 'di colli hwnna gyd dros nos a dwi ddim yn teimlo'n saff".
Dywed Ms Winson ei bod hi a'i phartner bellach yn bwriadu symud dramor i wlad yn Ewrop y mae'n teimlo sy'n fwy cefnogol i'r gymuned drawsryweddol.

Mae'r dyfarniad wedi ei groesawu gan ymgyrchwyr sy'n cefnogi hawliau merched.
Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Wales Women’s Rights Network fod hwn yn “ddyfarniad enfawr i fenywod” a dywedodd nad oedd y gyfraith bellach yn agored i “gamddehongli”.
“Dyma oedd y gyfraith fel y mae hi erioed” meddai Cathy Larkman, Cyfarwyddwr grŵp Cymru.
“Yn anffodus yr hyn a ddigwyddodd dros nifer o flynyddoedd yw bod grwpiau lobïo a sefydliadau wedi camliwio’r gyfraith honno ac yn anffodus mae sefydliadau mawr ac adrannau’r llywodraeth wedi bod yn barod i wrando a gwneud newidiadau ysgubol i’w polisïau mewnol eu hunain.
“Bydd yn rhaid dadwneud hynny i gyd oherwydd mae’r polisïau hynny bellach yn anghyfreithlon”.
Pwysleisiodd Ms Larkman fod y materion yn “fater hawliau menyw” ac na ddylai canlyniad y dyfarniad “fod i fenywod orfod delio ag ef”.
“Dylwni gyd feddwl am y merched sy’n gorfod delio â’r mater hwn er mwyn eu preifatrwydd, eu hurddas a’u diogelwch”.
Wrth roi’r dyfarniad, dywedodd yr Arglwydd Hodge fod y ddeddfwriaeth yn rhoi “amddiffyniad i bobl drawsryweddol, nid yn unig rhag gwahaniaethu trwy nodwedd warchodedig ailbennu rhywedd, ond hefyd yn erbyn gwahaniaethu uniongyrchol, gwahaniaethu anuniongyrchol ac aflonyddu o sylwedd yn eu rhyw gaffaeledig”.
'Cyfraith orau ydi cyfraith glir'
Dywedodd y Barnwr sydd wedi ymddeol, Niclas Parry, fod y dyfarniad hefyd yn egluro.
"Y gyfraith orau ydi cyfraith glir a’r gyfraith sydd ddim yn gadael cwestiynau. Mae’r penderfyniad yma wedi diffinio beth ydi menyw ac yn y byd sydd ohoni mae hynny wedi bod yn broblem fawr," meddai.
"Mae’r llys wedi dweud a 'dan ni wedi edrych ar y gyfraith, a menyw ydi menyw fiolegol. Gorffen yna.
"Dydi hawliau pobl traws ddim wedi eu heffeithio fan hyn - dan y Ddeddf Cyfle Cyfartal, maen nhw'n dal â'u hawliau, ond yr hyn y mae’r ddeddf yn ei ddweud ydi bod yr hawliau hynny wedi cael eu diffinio."
“Yr effaith yw, os siaradwch am eithrio pawb o le diogel yn y carchar neu’r ysbyty ar wahân i fenywod, mae’n golygu menywod biolegol”.
'Frustrating'
Pan ofynnwyd iddi am y farn a fynegwyd gan grwpiau fel Wales Women’s Rights Network, dywedodd Stacy Winson ei bod yn deall y pryderon sydd gan lawer o fenywod ond ei bod yn teimlo bod y dyfarniad yn anghywir.
“Rwy’n deall, mae yna poeni y bydd pobl yn defnyddio bod yn drawsryweddol i fynd i mewn i doiledau merched a gwneud yr hyn na ddylen nhw fod yn ei wneud ond eto, mae wedi basishio pobl fel fi rhag mynd mewn i lefydd lle dwi’n teimlo ofn [toiledau dynion e.e]," meddai.
“Mae mor frustrating oherwydd maen nhw'n ceisio gwneud eu hunain yn ddiogel, ac rydw i'n cael y 100% hwnnw ond mae wedi gwneud pobl eraill yn llai diogel yn y dyfarniad hwn”.
Dywedodd hefyd ei bod yn credu nad yw ei Thystysgrif Cydnabod Rhywedd, sef cofnod i ddangos newid cyfreithiol i hunaniaeth rhywedd, “yn werth y papur y mae wedi’i ysgrifennu arno mwyach”.