Plaid Cymru yn ennill is-etholiad Caerffili

Plaid Cymru yn ennill is-etholiad Caerffili

Mae ymgeisydd Plaid Cymru, Lindsay Whittle, wedi ennill yr is-etholiad i Senedd Cymru yn etholaeth Caerffili gyda 47% o'r bleidlais.

Daeth ymgeisydd Reform UK, Llŷr Powell, yn ail ar 36%, a Llafur yn drydydd pell ar 11%.

Dyma’r tro cyntaf ers dechrau datganoli yn 1999 i’r Blaid Lafur fethu ag ennill y sedd yn Senedd Cymru.

 Maen nhw hefyd wedi ennill sedd etholaeth Caerffili ym mhob etholiad i Senedd San Steffan ers 1918.

Cynhaliwyd yr is-etholiad yn dilyn marwolaeth yr aelod blaenorol o’r Senedd, Hefin David, ar ddiwedd mis Awst.

Wrth siarad ar ôl ei fuddugoliaeth fe wnaeth Lindsay Whittle roi teyrnged i'w ragflaenydd.

"Er ein bod ni efallai'n teimlo hapusrwydd mawr heno, byddwn yn gofyn yn barchus i chi gyd gofio'r rheswm pam ein bod ni'n cael etholiad a hynny dan amgylchiadau trist iawn," meddai.

"Ac rwy'n falch iawn ei bod ni'n talu teyrnged i Hefin David ac i'w deulu a'i ffrindiau, ac rwy'n estyn fy nghydymdeimlad dwysaf personol o hyd. 

"Bydd yn anodd ei ddilyn. Fydda i byth yn llenwi ei esgidiau."

Ychwanegodd bod ennill y sedd gystal â sgorio i Gymru yn ffeinal Cwpan Rygbi'r Byd.

Roedd Lindsay Whittle wedi ymgeisio 13 o weithiau yn y gorffennol i ennill Caerffili mewn etholiadau i Senedd Cymru a San Steffan.

Mae hefyd yn gyn-arweinydd Cyngor Caerffili ac yn gyn-aelod o’r Cynulliad dros ranbarth De-ddwyrain Cymru.

Image
Llyr Powell a Lindsay Whittle
Ymgeisydd Reform UK Llŷr Powell ac ymgeisydd Plaid Cymru, Lindsay Whittle

Ni wnaeth ymgeisydd Reform UK, Llŷr Powell, siarad o'r llwyfan ond fe siaradodd gyda'r cyfryngau yn hwyrach.

"Rwy'n credu y byddwn ni yn ffurfio llywodraeth Reform fis Mai nesaf," meddai gan gyfeirio at etholiadau'r Senedd yn 2026.

"Mae gennym ni fwy o bobl yn mynd i bleidleisio nawr am fod ganddyn nhw blaid maen nhw'n credu ynddi."

Dywedodd ymgeisydd y Blaid Lafur, Richard Tunnicliffe, ei fod yn parhau i "gredu" yn y Blaid Lafur.

"Roedd Hefin yn ffrind i mi ac yn fentor i mi," meddai.

"Roedd ei garedigrwydd, ei angerdd dros bobl Caerffili a'i egni diflino wrth frwydro dros ei etholwyr wedi ysbrydoli ein hymgyrch."

Mae'r canlyniad yn golygu bod y Blaid Lafur yn syrthio o 30 i 29 o'r 60 sedd yn y Senedd, gan ei wneud yn fwy heriol iddyn nhw ennill pleidleisiau.

Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Huw Irranca-Davies, bod dod yn drydydd yn "ergyd fawr" i'w blaid.

Fe wnaeth y Prif Weinidog Eluned Morgan longyfarch Lindsay Whittle mewn datganiad, gan ddweud bod yr isetholiad wedi'i gynnal mewn "amgylchiadau anodd".

"Mae Llafur Cymru wedi clywed y rhwystredigaeth ar garreg drws yng Nghaerffili nad ydyn ni wedi ymateb yn ddigon cyflym i'r angen am newid ym mywydau pobl," meddai.

"Rydyn ni'n gwrando, rydyn ni'n dysgu gwersi, a byddwn yn dod yn ôl yn gryfach."

Image
Richard Tunnicliffe
Ymgeisydd y Blaid Lafur, Richard Tunnicliffe

Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod "pobl Caerffili wedi siarad yn glir ac yn uchel". 

"Maent wedi dewis gobaith dros raniad, a chynnydd dros y status quo blinedig, ac wedi cefnogi gweledigaeth gadarnhaol, o blaid Cymru," meddai.

“Mae Lindsay Whittle yn hyrwyddwr lleol diflino sy’n adnabod pob cymuned yn yr etholaeth hon o’r tu mewn allan a bydd yn cyflawni newid go iawn i bobl Caerffili.

“Mae’r canlyniad hwn yn dangos nad dim ond dewis arall yw Plaid bellach. Ni yw’r dewis go iawn i Gymru nawr, yr unig blaid sy’n gallu atal Reform a gefnogir gan filiwnyddion a chynnig dyfodol gwell sy’n gweithio i bawb.

“Mae’r neges o Gaerffili yn glir: mae Cymru’n barod am arweinyddiaeth newydd, ac mae Plaid Cymru yn arwain y ffordd.”

Y canlyniadau

  • Lindsay Whittle - Plaid Cymru – 15,961 - 47.4% (+19.0)
  • Llŷr Powell - Reform UK – 12,113 -  36.0% (+34.2)
  • Richard Tunnicliffe - Llafur Cymru – 3,713 - 11.0% (-34.9)
  • Gareth Potter - Y Ceidwadwyr Cymreig - 690 - 2.0% (-15.3)
  • Gareth Hughes - Y Blaid Werdd - 516 - 1.5% (Newydd)
  • Steve Aicheler - Y Democratiaid Rhyddfrydol - 497 - 1.5% (-1.2)
  • Anthony Cook – Gwlad - 117 - 0.3% (Newydd)
  • Roger Quilliam – UKIP - 79 - 0.2% (Newydd)
     

Llun: Andrew Matthews / PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.