Peter Mandelson wedi 'bradychu'r wlad' meddai Keir Starmer
Mae'r Prif Weinidog Syr Keir Starmer wedi dweud fod Peter Mandelson wedi “bradychu ein gwlad” drwy rannu gwybodaeth gyfrinachol gyda Jeffrey Epstein.
Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddydd Mercher, dywedodd Syr Keir fod yr Arglwydd Mandelson wedi “dweud celwydd dro ar ôl tro” am ei berthynas â’r pedoffeil yn ystod y broses o'i benodi i swydd llysgennad yr Unol Daleithiau.
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod wedi siarad â’r Brenin hefyd i gael gwared ar yr Arglwydd Mandelson o’r Cyfrin Gyngor.
Dywedodd Syr Keir wrth aelodau seneddol: “Bradychodd Mandelson ein gwlad, ein Senedd a’m plaid.
“Fe wnaeth ddweud celwydd dro ar ôl tro wrth fy nhîm pan ofynnwyd iddo am ei berthynas ag Epstein cyn ac yn ystod ei gyfnod fel llysgennad - rwy’n difaru ei benodi.
“Pe bawn i’n gwybod bryd hynny yr hyn rwy’n ei wybod nawr, ni fyddai byth wedi bod yn agos at y llywodraeth.”
Mae'r Arglwydd Peter Mandelson wedi gadael Tŷ'r Arglwyddi ddydd Mercher.
Rhyddhau dogfennau
Bydd dogfennau ar benodiad yr Arglwydd Mandelson yn llysgennad i'r Unol Daleithiau yn cael eu rhyddhau gan y Llywodraeth ar ôl i arweinydd y Torïaid, Kemi Badenoch, ddefnyddio proses seneddol i fynnu rhyddhau'r dogfennau.
Mae'r Ceidwadwyr wedi defnyddio mecanwaith hynafol sy'n cael ei hadnabod fel 'humble address motion'.
Mae'n cynnwys cais i orfodi cyhoeddi e-byst rhwng pennaeth staff y Prif Weinidog a'r Arglwydd Mandelson a'i gysylltiad ag Epstein a'r cofnodion ynglŷn â'r penodiad pan ddaeth yn llysgennad yr UDA.
Mae'r mecanwaith yma yn orfodol ar weinidogion.
Fe ddywedodd Mrs Badenoch ei bod yn gobeithio y bydd rhaid ASau Llafur yn "uno gyda ni i ymladd am y gwir". Daw ei sylwadau yn sgil dyfalu y gallai rhai gwleidyddion Llafur ar y meinciau cefn ymatal am eu bod yn flin am y sgandal.
Mae rhif 10 wedi ychwanegu gwelliant i'r mecanwaith sydd yn dweud y dylai'r holl ddogfennau gael eu cyhoeddi "gan eithrio papurau sydd yn rhagfarnu yn erbyn Prydain mewn materion o ddiogelwch cenedlaethol neu berthnasau rhyngwladol".