Pryderon dros amseroedd aros wedi i fenyw farw ar ôl aros 15 awr am ambiwlans

Ambiwlans
Newyddion S4C

Mae pryderon dros amseroedd aros am ambiwlans wedi i fenyw 39 oed o'r gogledd farw 15 awr ar ôl galw 999.

Dywedodd uwch grwner Dwyrain a Chanolbarth Gogledd Cymru, John Adrian Gittins bod sawl crwner wedi lleisio pryderon "am flynyddoedd" dros oedi mewn amseroedd ambiwlans.

Mewn adroddiad atal marwolaethau'r dyfodol, a gafodd ei gyhoeddi'r wythnos hon wedi i Heather Louise Parkhill farw y llynedd, dywedodd Mr Gittins fod "risg y bydd marwolaethau yn digwydd yn y dyfodol heb fod camau'n cael eu cymryd."

Fe wnaeth Mrs Parkhill o Sir Ddinbych farw yn ei chartref ar 8 Ebrill 2025, dros 15 awr ar ôl i'r alwad 999 cyntaf gael ei wneud.

Ni chafodd ambiwlans ei ddanfon i'w chartref oherwydd "diffyg adnoddau" meddai'r adroddiad.

Cafodd sawl galwad arall ei wneud y bore canlynol, ond nid oedd ambiwlans wedi cael ei ddanfon tan 10:41 ar 9 Ebrill.

Er gwaethaf ymdrechion y parafeddygon, roedd Mrs Parkhill wedi marw.

Dywedodd Mr Gittins ei fod yn cydnabod bod "yr holl heriau mae'r gwasanaeth ambiwlans yn eu hwynebu ynghylch argaeledd adnoddau o ganlyniad i sawl ffactor," ond bod "problemau ynghylch diffyg adnoddau yn parhau.

“Er gwaethaf yr holl ymdrechion aml-asiantaeth i wella argaeledd adnoddau ac amseroedd ymateb, nid yw'n ymddangos bod pethau'n newid. Felly, rwy'n parhau i bryderu bod bywydau'n parhau i fod mewn perygl.”

Targedau

Mae ystadegau gan Lywodraeth Cymru o Ebrill 2025, pan oedd Mrs Parkhill wedi marw, yn dangos bod llai na 51% o alwadau categori coch (achosion lle mae bywyd mewn perygl) lle'r oedd y gwasanaeth ambiwlans wedi cyrraedd lleoliad y galwad o fewn wyth munud.

Y targed cafodd ei osod gan Lywodraeth Cymru oedd cyrraedd 65% o alwadau coch ledled Cymru o fewn wyth munud.

Mae'r data yn dangos bod ambiwlans wedi ymateb i tua 81% o alwadau coch o fewn 15 munud ym mis Ebrill 2025, a 98% o fewn 30 munud.

Nid yw'r adroddiad yn nodi pa gategori oedd wedi'i ddynodi i'r alwad a wnaed ar ran Mrs Parkhill.

Ym mis Gorffennaf 2025, cafodd dau gategori ymateb newydd eu creu i ddisodli'r un coch blaenorol, gyda phorffor ar gyfer ataliadau cardiaidd ac anadlol a choch ar gyfer trawma mawr ac achosion lle mae cleifion mewn perygl o ataliad cardiaidd neu anadlol os na fyddant yn derbyn cymorth yn gyflym.

Ym mis Rhagfyr, fe wnaeth tri chategori newydd ddisodli'r categorïau ambr a gwyrdd blaenorol – oren ar gyfer cyflyrau difrifol, melyn ar gyfer pobl y mae angen eu hasesu yn gyntaf a gwyrdd ar gyfer galwadau llai brys.

'Esgeulustod'

Yn ei adroddiad dywedodd Mr Gittins fod Mrs Parkhill wedi marw o gyflwr ar yr afu "sy'n gysylltiedig â gor-yfed cronig o alcohol", ond bod "esgeulustod" wedi cyfrannu at ei marwolaeth.

Ychwanegodd fod tystiolaeth yn dangos y byddai danfon ambiwlans yn gynt, hyd yn oed 20 neu 30 munud yn gynt "siŵr o fod wedi atal y farwolaeth hon."

Mae Liam Williams, cyfarwyddwr gweithredol Ansawdd a Nyrsio yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dweud bod y gwasanaeth wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i "newid y ffordd" mae galwadau 999 yn cael eu categoreiddio.

“Ar ran pawb yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru, hoffwn fynegi fy nghydymdeimlad diffuant â theulu Mrs Parkhill," meddai.

“Er nad ydym yn gallu newid y canlyniad, rydym yn sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddysgu ac yn ddiolchgar i’r crwner am ei archwiliad o’r achos hwn ac yn derbyn ei ganfyddiadau a’r adroddiad atal marwolaethau'r dyfodol, adroddiad rydym yn ei gymryd o ddifri' a byddwn yn ymateb iddo maes o law.

“Ers marwolaeth Mrs Parkhill, rydym wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i newid y ffordd y mae galwadau 999 yn cael eu categoreiddio fel bod mwy o bobl yn cael cymorth achub bywyd pan fydd ei angen arnynt, fodd bynnag, mae’n hanfodol bod ein criwiau ar gael i ymateb pan fydd eu hangen.

“Rydym mewn cysylltiad uniongyrchol â theulu Mrs Parkhill i wrando ar eu pryderon ac ateb eu cwestiynau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.