Sir Gâr: Pryderon dros gau ysgol ar iechyd bachgen ifanc bregus

Newyddion S4C

Sir Gâr: Pryderon dros gau ysgol ar iechyd bachgen ifanc bregus

Mae yna bryderon sylweddol wedi eu codi am iechyd a lles bachgen ifanc bregus pe bai ei ysgol gynradd yn cau. 

Mae gan Tommy Webber, saith oed, o Sanclêr yn Sir Gaerfyrddin, gyflwr genetig hynod o brin sy’n debygol o brinhau ei fywyd yn sylweddol, sef Bloom Syndrome. 

Cynllun Cyngor Sir Caerfyrddin ydi cau Ysgol Meidrim ddiwedd y flwyddyn, yn bennaf, oherwydd “nifer isel” y disgyblion. 

Maen nhw’n dweud na fydda nhw’n gwneud sylw pellach gan eu bod yn ymgynghori gyda’r cyhoedd.

Image
Ysgol Meidrim

Cafodd Tommy’r diagnosis o Bloom Syndrome pan yn bump oed.

Mae’n gyflwr hynod o anarferol sy’n gallu arwain at lu o broblemau iechyd, gan gynnwys risg uchel o ganser, system imiwnedd gwannach a thyfu’n arafach na’r disgwyl.

Y gred ydi mai ychydig gannoedd o bobol yn y byd sydd wedi cael y diagnosis.

“Mae’n ofnadwy o anodd ei weld yn mynd drwy hyn,” meddai ei fam, Leila.

“Mae o wastad yn rhoi wyneb dewr ymlaen a dydw i ddim yn gwybod sut. Mae o’n ysbrydoledig.”

Ym mis Tachwedd, fe bleidleisiodd cynghorwyr yng Nghaerfyrddin o blaid ymgynghori ar y posibilrwydd o gau Ysgol Gynradd Meidrim erbyn diwedd 2026.
 

Mae’r cyngor yn dadlau bod yna nifer isel o ddisgyblion a bod cost uchel i hynny.

Ar hyn o bryd mae 32 o ddisgyblion yno, gyda capasti ar gyfer 54.

Dywedodd Leila y byddai cau’r ysgol yn cael “effaith enfawr” ar Tommy.

"Mae o wedi adeiladu perthynas gyda’r athrawon a’r disgyblion …nid ysgol ydi ond teulu. Maen nhw wedi bod yn wych efo fo," meddai.

Mae Tommy wedi bod yn cael triniaeth yn Ysbyty Guy’s and St Thomas’ yn Llundain.

Mewn llythyr fydd yn cael ei anfon at y cyngor, mae nyrs arbenigol sydd wedi bod yn gofalu amdano’n dweud bod “dilyniant a threfn yn elfennau pwysig iawn o'i fywyd”.

Ychwanegodd: “Mi fyddai unrhyw newid mawr, fel newid ysgol, teithiau hirach pob dydd, neu newid staff yn gallu ei boeni'n fawr ac fe all gael effaith negyddol ar ei addysg a'i iechyd.”

Dywedodd Ann Jones, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Meidrim bod lle i “bob math o blant” mewn ysgolion bach.

Mae plant yn cael mwy o sylw personol mewn ysgolion o’r fath, meddai, a “rhif ydyn nhw mewn ysgolion mawr”.

Image
Ann Jones, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Meidrim
Ann Jones, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Meidrim

Yn ôl Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith, mae cymunedau gwledig Cymraeg yn wynebu “chwalfa”.

Ychwanegodd: “Yn yr ysgol hon mae plant o wahanol gefndiroedd, rhai sydd wedi symud mewn o ardaloedd di-Gymraeg, rhai gydag anghenion arbennig, i gyd yn cael eu gwerthfawrogi ac yn teimlo’n rhan o gymuned glos a’r Gymraeg ydi cyfrwng y gymuned yna.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin bod cyfnod ymgynghori ffurfiol yn digwydd ar hyn o bryd i gasglu barn am y cynigion.

“Mae hyn yn rhoi'r cyfle i rieni, athrawon, llywodraethwyr ysgol, a'r gymuned ehangach gael dweud eu dweud am y cynigion, ac rydym yn annog pawb i rannu eu barn fel rhan o'r broses,” ychwanegodd.

“Nid ydym yn gallu gwneud sylwadau pellach tra bo'r cyfnod ymgynghori ar waith. Ar ôl i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben, bydd adroddiad yn cael ei lunio i'r Cabinet ei ystyried.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.