Sir Gâr: Cymeradwyo cynnig i ymgynghori ar gynigion i gau ysgolion

Newyddion S4C 17/11/2025
Y brotest

Mae aelodau cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cefnogi yn unfrydol gynnig i gynnal ymgynghoriad statudol ar gau ysgolion Meidrim ac Ysgol y Fro yn Llangyndeyrn, ac i gyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol Llansteffan.

Y bwriad yw cynnal ymgynghoriad statudol ar ddyfodol y ddwy ysgol yn y flwyddyn newydd, ac mi allai’r ddwy gau ym mis Rhagfyr 2026 os ydy’r cyngor yn bwrw mlaen gyda’r cynllun. Yn ôl ystadegau’r cyngor mae 31 o ddisgyblion yn Ysgol Meidrim a 15 yn Ysgol y Fro.

Penderfynodd aelodau’r cabinet i gyhoeddi rhybudd statudol i gau Ysgol Llansteffan ar ddiwedd Gorffennaf 2026. Mae’r cyngor yn dweud bod yna wyth o ddisgyblion yn yr ysgol, er mae’r rhieni yn dweud bod y niferoedd wedi cynyddu i 14 ers i’r arolwg gael ei gynnal.

Cafodd y broses i gynnal ymgynghoriad ar ddyfodol Ysgol Poniets ei hatal am y tro.

Mewn perthynas â'r tair ysgol arall, tynnodd adroddiad i'r cabinet sylw at yr heriau y mae pob un ohonynt yn eu hwynebu, gan cynnwys “niferoedd disgyblion isel iawn” a nifer uchel o lefydd gwag.

Roedd yna “debygolrwydd bach y bydd niferoedd disgyblion yn cynyddu'n ddramatig dros yr ychydig flynyddoedd nesaf,” meddai.

Mae 15 o ddisgyblion yn Ysgol y Fro sydd â chapasiti o 46; ac yn Ysgol Meidrim mae 31 tra bod capasiti'r ysgol yn 54.

Clywodd y cynghorwyr hefyd fod nifer uchel o ddisgyblion yn nalgylch yr ysgolion hyn sy'n mynd i ysgolion mewn ardaloedd eraill.

Roedd y diffyg disgwyliedig yng nghyllideb y cyngor hefyd yn ffactor yn y penderfyniad gyda'r adroddiad yn dweud y byddai'r arbedion refeniw blynyddol disgwyliedig yn fwy na £275,000 pe bai'r tair ysgol yn cau.

'Sicr'

Fe gafodd protest ei chynnal y tu allan i neuadd y sir yn gwrthwynebu cau'r ysgolion.

Dywedodd Ffred Ffransis ar ran rhanbarth Sir Gâr Cymdeithas yr Iaith: "Ni ddylai'r cabinet fod wedi pleidleisio dros ymgynghoriad ar ôl cyfaddef nad oedd y cam chychwynnol statudol o drafod gyda'r ysgolion, sy'n cael ei alw'n gam 0, heb ddigwydd yn iawn. 

"Roedd yr adroddiadau gan swyddogion y cyngor yn dweud yn glir na ddylent awdurdodi ymgynghoriad na hysbysiad statudol heblaw eu bod yn sicr mai dyna'r opsiwn gorau.

"Bydd y gwaith paratoi i sicrhau ymatebion i'r ymgynghoriadau a gwrthwynebiadau i'r hysbysiad statudol i gau yn digwydd yn syth, ar y cyd â'r tair ysgol."

‘Niweidiol’

Siaradodd y Cynghorydd Meinir James o ward Llangyndeyrn o blaid ei hysgol leol a dywedodd fod ganddi bryderon, pe bai'n cau, y byddai'r disgyblion yn cael eu trosglwyddo i ysgol arall ym mis Ionawr 2027.

Dywedodd y byddai eu symud yng nghanol blwyddyn ysgol “yn niweidiol iddyn nhw”.

Ychwanegodd fod Ysgol y Fro yn ysgol fach, wledig lle clywir y Gymraeg fel iaith naturiol iard yr ysgol ymhlith y disgyblion, ac y byddai eu symud i ysgol fwy, fwy trefol yn newid mawr i’r disgyblion, meddai.

Dywedodd y Cynghorydd James na fyddai unrhyw arian a arbedir o ganlyniad i gau’r ysgol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ddiffyg ariannol y cyngor a galwodd ar aelodau’r cabinet i wrthod y cynnig i ymgynghori ar ddyfodol Ysgol y Fro.

Siaradodd y Cynghorydd Jean Lewis o ward Trelech o blaid Ysgol Meidrim gan ddweud nad oedd pob dewis arall yn lle cau wedi’i ystyried yn llawn ac ychwanegodd mai dim ond tua £13,000 fyddai’n cael ei arbed o’i chau.

Dywedodd fod hynny’n “swm bach iawn o’i gymharu â’r effaith niweidiol ar y gymuned leol.”

Ar ôl i’r Cynghorydd Lewis siarad cafwyd cymeradwyaeth gan gefnogwyr Ysgol Meidrim a oedd yn siambr y cyngor.

Pleidleisiodd aelodau’r cabinet dair gwaith ar wahân ar y cynnig ar gyfer pob ysgol unigol, a bob tro roeddent yn unfrydol yn eu cefnogaeth i’r cynigion.

'Anodd'

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg:

“Rydym wrth gwrs yn deall pa mor anodd yw hyn i'r ysgolion dan sylw ac yn cydymdeimlo'n llwyr â'r rhieni, staff, llywodraethwyr a'r aelodau lleol.

“Mae'n bwysig nodi nad oes unrhyw benderfyniadau wedi'u gwneud ynghylch Ysgol Meidrim ac Ysgol y Fro, a bydd proses ymgynghori yn rhoi cyfle i'r cymunedau ysgol hynny ddweud eu dweud fel rhan o'r broses o wneud penderfyniadau.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.