Gorchymyn rhag stelcian AS Plaid Cymru i ddyn o'r Felinheli

David Lowe.

Mae gorchymyn amddiffyn rhag stelcio wedi ei wneud yn erbyn dyn o Wynedd wedi iddo gyhoeddi neges fygythiol yn erbyn un o aelodau seneddol Plaid Cymru.

Roedd David Lowe, 72 oed, wedi ei garcharu yn flaenorol yn 2020 am anfon ebost bygythiol at yr un AS, Liz Saville-Roberts.

Dywedodd y barnwr sirol Gwyn Jones mewn llys yn Llandudno ddydd Mercher: “Mae’n amlwg bod Mr Lowe yn peri risg sylweddol o niwed.”

O ganlyniad i'r gorchymyn amddiffyn rhag stelcio, ('stalking protection order') rhaid i Lowe beidio â chysylltu â Liz Saville-Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, peidio mynd i’w hetholaeth, Dwyfor Meirionnydd, na chyhoeddi dim ar gyfryngau cymdeithasol am y gwleidydd. 

Mae cyfyngiadau eraill ar ei ddefnydd o’r rhyngrwyd wedi eu gosod hefyd.

Dywedodd y cyfreithiwr Gareth Preston, ar ran Heddlu Gogledd Cymru fod merch yr aelod seneddol wedi ffonio 999 ac wedi adrodd bod Lowe wedi postio neges ar X am ei mam.

Ymysg nifer o sylwadau gan Lowe ar y cyfryngau cymdeithasol fe gyfeiriodd mewn un neges at leoliad tŷ Ms Saville-Roberts yn ei hetholaeth, gan gyfeirio hefyd at yr orsaf dân agosaf i'w chartref.

Carchar

Yn 2020 cafodd y pensiynwr ei garcharu am anfon e-bost bygythiol arall at yr AS, oedd yn cyfeirio at Jo Cox, yr AS Llafur gafodd ei llofruddio.

Dywedodd Mr Preston fod Lowe wedi dangos “gelyniaeth sylweddol” tuag at Ms Saville-Roberts pan gafodd ei holi. 

“Cadarnhaodd ei fod yn hiliol,” meddai’r cyfreithiwr.

Ni ddaeth y pensiynwr i’r gwrandawiad  ddydd Mercher, ond fe glywyd fod Lowe wedi achosi “pryder mawr” i’r gwleidydd a’i theulu, clywodd y llys.

Dywedodd Mr Preston fod Lowe wedi dweud nad oedd yn poeni am y gorchymyn yn ei erbyn ac y byddai’n cytuno â phenderfyniad y llys.

Rhybuddiodd y Barnwr Jones Lowe yn ei absenoldeb y gallai torri’r gorchymyn arwain at hyd at bum mlynedd o garchar. 

Bydd yn rhaid iddo gofrestru gyda’r heddlu.

Llun: David Lowe yn 2020 pan gafodd ei garcharu (Heddlu'r Gogledd)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.