Newyddion S4C

Plismon o Fôn yn gwadu 'colli ei dymer' gyda bachgen y tu allan i glwb nos ym Mangor

Ellis Thomas

Mae plismon o Fôn sydd wedi'i gyhuddo o achosi niwed corfforol difrifol i fachgen 17 oed wedi gwadu iddo "golli ei dymer" a'i benglinio.

Fe wnaeth y Cwnstabl Ellis Thomas, 25 oed o'r Gaerwen, hefyd wadu ei fod bellach yn "ceisio awgrymu bod pobl eraill ar fai".

Fe wnaeth hefyd anghytuno ag awgrym bargyfreithiwr yr erlyniad Elen Owen ei fod wedi penglinio Mr Murphy "yn ei dymer" gan yna geisio "lleihau'r difrod".

Yn ôl yr erlynydd, roedd PC Thomas wedi ceisio ymbellhau ei hun o'r hyn a ddigwyddodd i'r bachgen a'i fod yn ceisio beio plismyn eraill. 

"Ddim o gwbl," meddai PC Thomas mewn ymateb i'r honiad yn y gwrandawiad yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Iau.

Dywedodd yr erlynydd nad oedd hi’n awgrymu bod PC Thomas wedi mynd ati’n fwriadol i anafu’r bachgen.

Clywodd y llys fod PC Thomas wedi dweud "fi wnaeth lorio fo" mewn car heddlu, gan yna roi ei law dros y camera.

Fe wnaeth yr erlynydd awgrymu ei fod yn "gwybod anferthedd" yr hyn yr oedd wedi’i gyfaddef.

'Camgymeriad'

Dywedodd PC Thomas fod yna ddau ddigwyddiad ar wahân a’i fod wedi "llorio" y bachgen yn ystod y cyntaf.

Mae’n parhau i wadu ei fod wedi penglinio Mr Murphy y tu allan i glwb nos Cube ym Mangor ym mis Ionawr 2023, gan arwain at rwygo un o'i geilliau.

Bu'n rhaid i Mr Murphy gael llawdriniaeth i dynnu hanner caill yn ddiweddarch.

Wrth gael ei holi gan David Temkin KC, dywedodd Thomas ei fod wedi'i roi ar ddyletswyddau cyfyngedig nad oeddent yn ymwneud â'r cyhoedd. 

Ond fe wnaeth barhau i fynnu nad oedd yn gyfrifol yn droseddol am yr anaf i’r bachgen na’i fod wedi ei achosi ar ddamwain.  

Fe wnaeth hefyd fynnu nad oedd dim byd "sinistr" am y ffaith nad oedd wedi troi ei gamera corff ymlaen cyn i’r bachgen gael ei lorio.

Fe wnaeth PC Thomas dderbyn fod ei ddatganiad tyst yn "wael iawn" a bod diffyg manylder. Ond gwadodd iddo geisio cuddio'r hyn a wnaeth.   

Dywedodd yr erlynydd wrtho: "Rwy’n awgrymu i chi, am amrywiaeth o resymau, beth ddigwyddodd y noson honno yw eich bod wedi ei cholli hi a gwneud rhywbeth o’i le." Fe wnaeth PC Thomas wfftio'r honiad, gan ddweud: "Na."

Ychwanegodd yr erlyniad ei fod wedi sylweddoli ei fod wedi gwneud "camgymeriad enfawr" gan geisio cuddio hynny.

Mae'r achos yn parhau.

 

 
 
 
 
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.