Newyddion S4C

'Mae TikTok wedi achub fy mywyd': Menyw o Flaenafon yn rhannu ei phrofiad gyda chyffuriau ac alcohol

'Mae TikTok wedi achub fy mywyd': Menyw o Flaenafon yn rhannu ei phrofiad gyda chyffuriau ac alcohol

'Heb bostio ar TikTok, sai’n meddwl byddwn i’n sobr nawr.'

Mae Rachel Cooper o Flaenafon yn ne Cymru wedi rhoi'r gorau i alcohol a chyffuriau ers dros 220 o ddyddiau, ac yn ystod yr amser hynny mae hi wedi rhannu ei phrofiad ar TikTok, yn siarad yn agored am ei thaith gyda miliynau o’i dilynwyr. 

I Rachel, mae postio ar TikTok yn ddyddiol wedi parhau i'w chadw yn atebol wrth iddi dal ati ar ei thaith i barhau yn sobr. 

Ers mis Ionawr 2023, mae Rachel wedi bod yn postio yn gyson ar yr ap, ond i gychwyn, roedd yn postio er mwyn cadw ei hun yn atebol ar ei thaith.

Doedd hi ddim yn disgwyl i fynd yn feiral, ond bellach mae ganddi 38,000 o ddilynwyr. 

'Newid fy mywyd'

Roedd Rachel yn ei chael hi'n anodd siarad gyda theulu, ei meddyg a rhai o'i ffrindiau gan nad oedd pawb yn deall, ond drwy bostio ar TikTok, mae hi wedi cysylltu gyda nifer o bobl sydd yn mynd trwy’r un peth, ac sydd hefyd yn edrych am gymorth. 

Wrth ddenu mwy o ddilynwyr ar yr ap, mae Rachel wedi creu cymuned sobr, ‘Cooper’s Troopers’, sydd yn rhoi cymorth i bobl sydd yn edrych am help ac ysbrydoliaeth trwy ei thaith o roi’r gorau i alcohol a chyffuriau. 

Mae hi yn rhedeg y grwpiau cymorth adfer gyda’i ffrindiau Victoria a Charlie, ac hefyd yn gweithio yn llawn amser mewn swydd arall. 

Wrth sôn am ddechrau rhannu ei phrofiad gyda phobl eraill, dywedodd Rachel nad oedd hi eisiau rhoi ei hun allan mewn ffordd negyddol “sydd yn eironig achos wedyn wnes i roi fy hunan allan ar blatfform cyfryngau cymdeithasol i filiynau o bobl i wylio," meddai wrth Newyddion S4C. 

“Fi'n credu 'nes i ymuno ar TikTok oherwydd nad oeddwn i'n nabod llawer o bobl yn lleol ar yr ap felly oeddwn i yn meddwl y byddwn i yn ddi-enw am dipyn o amser, heb sylweddoli pa mor sydyn oedd fy nghyfrif am ddechrau adeiladu.” 

"Y ffaith fy mod i yn gallu helpu pobl eraill nawr, mae wedi newid fy mywyd."

'Dydych chi ddim ar eich pen eich hun'

Dywedodd Rachel fod yr holl sylw y mae hi wedi ei dderbyn yn dangos fod yna gymaint o bobl eraill yn y byd yn wynebu'r un heriau.

Roedd Rachel yn teimlo yn ynysig yn feddyliol am flynyddoedd cyn postio ar TikTok, a heb y platfform, dywedodd efallai na fyddai hi yma heddiw. 

Trwy bostio ar yr ap, mae Rachel wedi cwrdd â llawer o bobl a wnaeth wneud iddi sylweddoli nad oedd hi ar ei phen ei hunain. 

“Yr adeg lle nad wyt ti yn teimlo ar ben dy hun rhagor, dyna hanner y frwydr," meddai.

"Nid yw dibyniaeth yn gwahaniaethu ac mae gennym y camsyniad hwn ei fod yn effeithio ar bobl dlawd, pobl ddigartref a phobl ddi-waith. Nid yw hynny'n wir." 

Ac i Rachel, mae gweld hyn ar blatfformau cyhoeddus yn hynod o bwysig oherwydd mae pobl yn gallu uniaethu gyda phobl eraill, ac yn gallu gofyn am gymorth, heb y tabŵ. 

"Y mwyaf y bydd pobl yn siarad am y broblem hon, y lleiaf o dabŵ fydd yna, a bydd yn haws i frwydro yn erbyn y broblem gyda'n gilydd." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.