Saith yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad rhwng tri char yn Sir Ddinbych
Mae saith o bobl wedi eu cludo i'r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad rhwng tri char yn Sir Ddinbych.
Dywedodd y gwasanaethau brys fod y gwrthdrawiad wedi digwydd tua 19:40 ddydd Mercher ar yr A541 ger hen dafarn y Downing Arms ym mhentref Bodfari.
Fe gafodd tri o’r bobl a gafodd eu hanafu eu cludo mewn hofrennydd i unedau trawma ac fe gafodd y pedwar arall eu cludo i ysbytai lleol.
Dywedodd yr heddlu bod rhai o’r bobl wedi dioddef anafiadau sy’n bygwth eu bywydau ac a fydd yn newid eu bywydau.
Mae dau berson wedi’u harestio ar amheuaeth o achosi anafiadau difrifol drwy yrru’n beryglus ac mae ymchwiliad i amgylchiadau’r gwrthdrawiad hwn ar y gweill.
Mae teuluoedd pawb sy’n gysylltiedig â’r gwrthdrawiad wedi cael gwybod, meddai’r heddlu.
Dywedodd y Rhingyll Daniel Rees o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “Rwy’n apelio ar dystion i’r gwrthdrawiad, sydd heb roi eu manylion i’r heddlu, i gysylltu.
“Rydyn ni hefyd am siarad ag unrhyw un a allai fod wedi gweld, neu sydd â lluniau teledu cylch cyfyng neu gamera dash o, BMW 118 arian a Mercedes A200 Arian yn teithio gyda’i gilydd yn ardal Dinbych a Bodfari tua’r amser hwn i gysylltu.
“Hoffwn i ofyn hefyd fod pobl yn peidio â rhoi sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol am y digwyddiad hwn hefyd, er mwyn peidio â rhagfarnu’r ymchwiliad troseddol.
“Yn lle hynny cysylltwch â ni’n uniongyrchol i drosglwyddo unrhyw wybodaeth.”
Os oes gan unrhyw un wybodaeth ynglŷn â’r gwrthdrawiad hwn, cysylltwch â’r heddlu gan ddyfynnu rhif digwyddiad C057641.