Tân yn cau ffyrdd ger Tyddewi

Tân yn cau ffyrdd ger Tyddewi
Mae tân mewn caeau grawn wedi cau nifer o ffyrdd o amgylch Tyddewi ddydd Sadwrn.
Roedd tua 30 ymladdwyr tân o Dyddewi, Hwlffordd, Abergwaun ac Aberdaugleddau wedi bod yn brwydro’r tân i’r gogledd o’r ddinas a ddechreuodd losgi am tua 13.30.
Roedd yr heddlu wedi gofyn i bobl gadw draw o’r ardal ger traeth Porth Mawr cyn agor y ffyrdd yn hwyrach nos Sadwrn.
Dywedodd Eglwys Gadeiriol Tyddewi ar y cyfryngau cymdeithasol: “Mae tân mawr wedi cynnau ar hen ffordd y pererinion i mewn i’r cwm i’r golgedd-gweddïau dros yr ymladdwyr ac unrhyw un sy’n byw gerllaw. Nid yw awel o wynt cynnes gogleddol yn helpu."