'Y gêm fwyaf': Y Cymro sy'n gweithio i Oldham Athletic yn anelu am Wembley
"100% dyma 'di’r gêm mwyaf. "
Dyna eiriau dyn o Bwllheli sy'n gweithio i glwb pêl-droed Oldham Athletic wrth iddyn nhw anelu i sicrhau dyrchafiad o'r Gynghrair Genedlaethol.
Bydd Oldham yn herio Southend yn Wembley yn rownd derfynol gemau ail gyfle'r gynghrair gyda'r enillydd yn hawlio lle yn Adran Dau.
Ers bron i chwe blynedd mae Trystan Jones, 27 oed, wedi bod yn gweithio fel hyfforddwr cryfder a chyflyru (strength and conditioning) gyda'r clwb.
Dechreuodd weithio gydag academi Oldham tra'n astudio ei radd meistr ym Mhrifysgol Lerpwl, cyn cychwyn swydd gyda'r tîm cyntaf.
Yn rhan o'i waith o ddydd i ddydd mae Trystan yn cynllunio sesiynau'r gampfa, dadansoddi data ac yn cadw golwg ar ddeiet y 30 chwaraewr yn y garfan.
"Job ni rili ydy i gyd i neud efo petha corfforol," meddai wrth Newyddion S4C.
"Unwaith ma’r hogia yn cyrraedd yn y bore, gynna nhw’r ochr analysis, ond 'dan ni'n neud yn siŵr bod nhw’n paratoi at training yn iawn, yn y gym ac yn y warm up.
Ychwanegodd Trystan Jones: "Yna cadw llygad ar data yn training i neud yn siŵr bod pawb yn gweithio’n galed, ond dim rhy galed fel bod nhw’n risg o injury.
"Unwaith ma’r gwaith ar y gwair 'di gorffen, neud yn siŵr bod pawb yn byta’n iawn, cymryd y supplements a gweithio’n iawn yn y gym.
"'Da ni'n cynllunio i neud yn siŵr bod nhw’n gweithio ar bob dim a dewis y dyddia i gweithio nhw’n galad a dyddia i neud yn siŵr bod nhw’n ffresh ac yn teimlo’n 100% i fynd mewn i’r training sessions a gemau.
"'Da ni’n trial cadw relationships da efo'r players 'fyd fel bod nhw’n gwrando arna chdi a bod nhw’n gwbod bo' chdi’n neud y peth cywir iddyn nhw.
'Caeau Ysgol Glan Y Môr'
Fe wnaeth Oldham guro York o 3-0 er mwyn cyrraedd rownd derfynol gemau ail-gyfle'r Gynghrair Genedlaethol yn Wembley.
Gydag wythnos i fynd tan y rownd derfynol, mae gan y clwb gyfle i ddychwelyd i Adran Dau am y tro cyntaf ers tair blynedd.
Wrth gofio yn ôl i'w blentyndod ym Mhwllheli, fe fydd diwrnod y ffeinal yn un mawr i Trystan a'i deulu.
"100% dyma 'di’r gêm mwyaf. O'n i’n deud wrth dad ar y ffôn, jyst hogyn bach o’dd yn chwara football ar gaeau Ysgol Glan y Môr 'di tyfu fyny a mae o’n cal chance wan i weithio ar cae Wembley - ma' mor swreal.
"'Dan ni’n hyderus, ar ôl y dwy gêm diwethaf 'da ni ofn neb. Gynna' ni lot o experience o fewn y squad efo’r players sydd gynna ni, ma’n gêm fowr yn Wembley ond 'da ni gyd reit hyderus.
"Os 'da ni'n gallu achievio promotion ar ôl i mi weithio gyda'r clwb fyr o chwe mlynedd wan, do’s na’m teimlad gwell.
"Jyst y dechra gobeithio fydd hwn o yrfa llwyddiannus. Bydd mam a dad a’n nghariad yn dod a lot o ffrindia hefyd, a ma’n neis bod pobl dwi’n agos efo yn dod i dilyn y journey.
'Tebygrwydd' Wrecsam ac Oldham
Yn debyg i Wrecsam, mae Oldham wedi profi trafferthion ariannol yn y gorffennol.
Fe aeth Wrecsam i ddwylo'r gweinyddwyr yn 2004 a bu'n rhaid i'r clwb ddechrau'r tymor hwnnw ar -10 pwynt.
Er nad ydy Oldham wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, roedd pryderon yn 2021 y gallai hynny ddigwydd o dan y perchennog Abdallah Lemsagam.
Roedd protestiadau yn erbyn ei berchnogaeth o'r clwb a chyhuddiadau nad oedd yn talu cyflogwyr chwaraewyr - ac roedd y chwaraewyr yn bygwth streicio yn ogystal.
Protestiodd cefnogwyr ar y cae pan ddisgynnodd Oldham i'r Gynghrair Genedlaethol ym mis Ebrill 2021.
Mae Wrecsam newydd sicrhau dyrchafiad i'r Bencampwriaeth, ac er ei fod yn annhebygol y bydd clwb yn gallu efelychu hynny'n union, mae Trystan yn gobeithio gall Oldham gychwyn symud i fyny'r cynghreiriau," meddai.
"Ma' pawb yn edrych at stori Wrecsam ac yn meddwl 'waw, ma' nhw 'di neud yn wych," meddai.
"O weithio o fewn football, dwi'n gwbod geidi pwmpio gymaint o bres a ti isho ond os ti ddim gyda’r environment a’r values cywir ma success yn anodd i ddod ar draws rili.
"Ma’n amlwg bod Wrecsam wedi ca'l hynna’n iawn a cal tri promotion yn y row sy'n incredible rili.
"Ma hanes Oldham yn rili rili tebyg i Wrecsam a dyna pam dwi'n joio gweithio i Oldham, achos dwi'n gwbod be ma nhw 'di bod trwy fel ma' Wrecsam wedi bod trwy.
"Ma' hwnna wedi gwneud fi isho gwneud yr un peth gyda Oldham."