
Creu cymuned fynydda newydd i 'ysbrydoli' merched
Mae dynes o Ben Llŷn wedi sefydlu cymuned fynydda i “ysbrydoli” merched i ddringo mynyddoedd.
Mae Hawys Bryn Williams, 25, yn dod o Aberdaron yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaernarfon.
Yn ei blwyddyn allan, roedd hi’n gweld ei hun yn edrych tua’r mynyddoedd yn aml, ond yn gyndyn o fentro oherwydd diffyg hyder.
“O’n i rili isho mynd allan ar y mynyddoedd ond do’n i’m isho mynd ar ben fy hun achos do’n i’m yn teimlo’n ddigon hyderus” meddai wrth Newyddion S4C.
Pan symudodd i’r brifysgol ym Manceinion, ymunodd â Chlwb Mynydda’r brifysgol, lle’r oedd cyfle iddi deithio i Ardal y Llynnoedd, Yr Alban ac adref i Eryri i ddringo mynyddoedd.
Yno, meddai Hawys, y dechreuodd ei diddordeb go iawn mewn dringo mynyddoedd, a chyn pen dim daeth yn gadeirydd ar y clwb.
Bwlch yn y farchnad
Ers mis Mawrth eleni, mae Hawys wedi cymhwyso fel arweinydd mynydd, ac wedi arwain sawl taith fynydda ar ran elusennau a chwmnïau gwahanol.
Dywedodd iddi ddod ar draws mwy o ddynion na merched wrth iddi ddringo’r mynyddoedd.
“Do’n i’m isho sathru ar droed unrhyw gwmni arall,” meddai wrth sôn am sefydlu Merched Mynydda.
“Ac roeddwn i’n gweld bod ‘na fwlch yn y farchnad i’w wneud o’n gynhwysol i’r merched, a magu eu hyder nhw i ddod allan ar y mynyddoedd.”

Yn ôl Hawys, mae’r clwb yn targedu merched sydd â phob math o brofiad o ddringo mynyddoedd.
Dywedodd mai’r gobaith ydi i “dargedu pobl leol sydd efo’r mynyddoedd ar eu stepan drws a ddim yn gwybod lle i ddechrau".
“Dwi isho’i ‘neud o yn gynhwysol i bawb,” meddai.
“Dwi isho iddo fo fod yn gam dechreuol i rywun fynd ati i fynydda, ond dwi hefyd isho fo fod i’r bobl sy’n mynydda’n barod.
“Mi fysa’n dda os fysa’r merched sydd yn brofiadol yn barod yn gallu dysgu sgiliau newydd ac ella gallu dringo mynyddoedd ‘di nhw’m ‘di gallu mentro ar ben eu hunain.”
“Mae o i bawb… Dwi jysd isho mwy o bobl leol ar y mynyddoedd.” meddai.
‘Sesiynau gwahanol i’r gofynion gwahanol’
Dywedodd Hawys ei bod wedi gofyn am adborth ar ei chyfrif Instagram, sydd wedi denu dros 350 o ddilynwyr mewn 5 diwrnod.
“Dywedodd lot eu bod nhw awydd rhoi cynnig ar Grib Goch a Thryfan” meddai.
“Fyswn i ddim yn dweud bod rheiny’n addas i bobl sydd erioed wedi bod ar fynydd o’r blaen, felly dwi am gynnig sesiynau gwahanol i’r gofynion gwahanol.”

Nid cerdded i gopa mynydd yn unig y mae Hawys yn bwriadu ei gyflwyno i’r clwb, ond mae hi hefyd yn awyddus i ddysgu sgiliau fel ‘sgramblo’ neu ddringo gydag harnes.
Er mwyn cymhwyso i fod yn Arweinydd Mynydd, roedd yn rhaid iddi ddysgu sgiliau Campio Gwyllt, sydd ar hyn o bryd yn anghyfreithlon yng Nghymru.
Dim ond yn Dartmoor yn Lloegr ac yn Yr Alban mae Campio Gwyllt yn cael ei ganiatáu.
Ond dywedodd Hawys ei bod yn awyddus i ddysgu’r sgiliau ar feysydd campio yng Nghymru, i allu rhoi cynnig ar y weithgaredd ei hun yn Yr Alban.
Ychwanegodd ei bod yn bwriadu cyd-weithio gyda hyfforddwr nofio gwyllt i wneud sesiynau ‘cerdded a nofio’.
Ymateb
Dywedodd Hawys fod yr ymateb i’r clwb newydd wedi bod yn “rili rili da”.
“Do’n i’m yn disgwyl hanner gymaint o ymateb dwi ‘di‘i gael,” meddai.
“Mae o wedi dangos fod ‘na le iddo fo felly mae o’n rili positif a chalonogol bod pobl wedi gweld angen iddo fo.”

“Gôl y clwb yn y pen draw ydi i gael mwy o bobl ddigon hyderus i ddringo mynyddoedd,” meddai Hawys.
“Dwi isho i bobl leol werthfawrogi be sydd ganddyn nhw ar eu stepan drws, a dwi isho cael mwy o ferched ar y mynyddoedd."
Gweithgaredd cyntaf y clwb fydd taith i fyny Moel Eilio.
Dywedodd ei bod wedi dewis y daith honno i ddechrau gan ei bod yn “rhywbeth i bawb,” meddai.
“Dydi o ddim yn dechnegol, ond mae o’n eitha heriol achos mae o’n eitha’ pell.”
“Mi fydd o’n flas ar be sydd i ddod, ond hefyd er mwyn i fi ddeall lle i fynd o fan ‘na”.
