Newyddion S4C

Biliau ynni i ostwng £129 y flwyddyn ar gyfartaledd o fis Gorffennaf

Nwy

Mae'r rheoleiddiwr ynni Ofgem wedi cyhoeddi y bydd y cap ar brisiau ynni yn gostwng 7% o fis Gorffennaf ymlaen. 

Dywedodd Ofgem ddydd Gwener y bydd y bil arferol yn gostwng £129 i £1,720 y flwyddyn pan ddaw y cap pris newydd i rym.

Ar hyn o bryd mae’r cap pris, sy’n gosod y terfyn ar faint y gall cwmnïau ei godi fesul uned o ynni, tua £1,849 ar gyfer cartref.

Daw'r gostyngiad ar ôl i dariffau gan Arlywydd America, Donald Trump, arwain at gwymp sylweddol mewn prisiau nwy ac olew.

Ond mae'r gostyngiad ychydig yn llai na'r 9% a gafodd ei ragweld gan fod tensiynau masnachol wedi'u lleddfu yn yr wythnosau diwethaf.

Dywedodd Tim Jarvis, cyfarwyddwr cyffredinol marchnadoedd Ofgem, ei fod yn "ymwybodol iawn" o'r heriau ariannol.

"Bydd gostyngiad yn y cap pris yn newyddion i’w groesawu i ddefnyddwyr, ac mae’n adlewyrchu gostyngiad ym mhris rhyngwladol nwy cyfanwerthol," meddai.

"Fodd bynnag, rydym yn ymwybodol iawn bod prisiau’n parhau’n uchel, ac mae rhai yn parhau i gael trafferth gyda chost ynni.

"Y peth cyntaf rwyf am ei atgoffa yw nad oes rhaid i chi dalu’r cap ar brisiau – mae bargeinion gwell ar gael felly mae’n bwysig chwilio o gwmpas, a siarad â’ch cyflenwr presennol am y fargen orau y gallant ei gynnig i chi. 

"A gall newid eich dull talu i ddebyd uniongyrchol neu dâl clyfar arbed hyd at £136 i chi."

Ychwanegodd bod angen ailedrych ar y system ynni yn y dyfodol er mwyn "sicrhau prisiau mwy sefydlog".

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.