
Y diwydiant mynydda wedi mynd yn 'syrcas' meddai'r Cymro cyntaf i ddringo Everest
Y diwydiant mynydda wedi mynd yn 'syrcas' meddai'r Cymro cyntaf i ddringo Everest
Mae'r diwydiant antur a mynydda wedi troi yn "syrcas llwyr sy'n rhy gostus" yn ôl y Cymro cyntaf i ddringo mynydd Everest.
Yn ôl Caradoc Jones, 66, mae peryg bod cwmnïau mawr yn mynnu gormod o bres a bod angen annog mwy i chwilio am "antur go iawn".
Mi lwyddodd Mr Jones sy'n dod yn wreiddiol o Bontrhydfendigaid, i gyrraedd copa mynydd ucha'r byd ar Fai 23 1995 ac ers hynny mae wedi parhau i ddringo mewn rhai o ardaloedd mwyaf anghysbell y byd.
Bellach yn byw yn ardal Helsby swydd Caer, a bu'n sôn am sut lwyddodd i gyrraedd copa Everst.
"Mi ddechreuais i drwy ddringo mynyddoedd yn Eryri pan yn grwt ifanc yna dysgu dringo iâ yn yr Alban, yr Alps ac roedd llawer o ymgyrchoedd cyn mynd i Everest," meddai.

Wrth baratoi i ddringo Everst yn 1995 mi ddechreuodd y daith yn ardal Tibet sydd i'r gogledd o'r mynydd.
"Mae heol rough yn mynd bob cam o'r ffordd i base camp ac mae rhyw 20km i'r East Rongbuk Glacier i'r Advanced base ac yna mae'r dringo go iawn yn dechrau go iawn a chi 'lan 6,000 troedfedd," meddai.
Gyda'r bartner dringo o Denmarc, Michael Knakkergaard Jørgensen, bu'n sôn am yr effaith mae dringo ar uchder yn ei gael ar y corff.
"Mae'n anodd iawn serch bod ni wedi addasu yn Nepal," meddai.
Gyda'r ddau yn agosáu at y copa doedd dim sicrwydd o lwyddiant gyda thywydd gwael yn rhoi'r holl antur yn y fantol.
"Gafo ni'n dal mewn storm yn y camp uchaf 8300 metr am tridiau nes i'r gwynt yna ostwng i gael y cyfle i fynd am y copa ond oedd o yn y fantol tan y munudau diwethaf," meddai.
Gyda bwlch clir o'r tywydd eithafol mi lwyddodd y ddau i'w gwneud hi am y copa a Caradoc yn sôn am y rhyddhad llwyr.
"O'r diwedd chi'n ystyried bod chi'n mynd i lwyddo achos chi'n gweled yr hen faneri sydd ar y copa ac mae'r 200 llath olaf o'r gogledd ddim yn serth felly mae'r hapusrwydd yn codi wrth ichi agosáu," meddai.
"Tyfais i lan pan oedd Everest yn gâd personol ac o'n i wedi llwyddo o'r diwedd".

'Calon'
Wrth fyfyrio ar ei daith mae'n sôn i'r daith gostio £2,000-£3,000 o filoedd yn unig a hynny'n cymharu gyda chost cyfartalog bellach o £40,000-£60,000.
"Mae' cyhoedd yn dueddol o feddwl does dim hawl gyno chi fynd allan oni bai bod chi wedi gwneud cwrs neu basio arholiad a phrynu yr holl kit ma," meddai.
"Mae rhaid inni fod yn ofalus bod ni ddim yn colli'r elfen o antur go iawn.
"[Mae'r gost] wedi troi yn syrcas llwyr ac mae bron dim byd i neud efo mynydda go iawn.
"Mae pobl yn gwneud pethau llawer caletach yn dawel bach ym mhob cornel o'r byd a fanno mae calon mynydda a dringo yn cario mlaen fi'n credu."
Ag yntau'n dal i ddringo, mae Caradoc yn dweud bod heriau newydd i'w darganfod o hyd ac yn dweud y dylai pobl sydd awydd antur ganolbwyntio ar y broses o gynllunio gyda chyfeillion er mwyn magu sgiliau go iawn.
Yn 66 oed, mae'n parhau i ddringo gyda thaith i ardal yr Himalayas wedi'i chynllunio at ddiwedd y flwyddyn ac yn mynnu bod antur i'w chanfod ym mhob cornel o'r byd.