Newyddion S4C

Rhagor o gwmnïau perchnogion Parc Penrhos ym Môn wedi mynd i'r wal

79th group.jpg

Mae rhagor o gwmnïau perchnogion safle dadleuol Parc Penrhos ym Môn wedi mynd i'r wal yn ystod y dyddiau diwethaf.

Wythnos yn ôl fe wnaeth Cyngor Môn ddweud bod perchnogaeth a dyfodol Parc Penrhos yng Nghaergybi yn "aneglur" wedi i nifer o gwmnïau perchnogion y safle fynd i'r wal.

Fe wnaeth y cyngor y datganiad wedi i Newyddion S4C ddatgelu bod wyth cwmni oedd yn rhan o grŵp o gwmnïau perchnogion y safle - Seventy Ninth Group - wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn ddiweddar.

Cwmni Seventy Ninth Group o Southport sydd yn berchen ar Barc Penrhos ers mis Ionawr eleni, ar ôl ei brynu gan Land and Lakes.

Eu bwriad ar y pryd oedd bwrw ymlaen gyda datblygiad dadleuol gwerth £250m i adeiladu pentref gwyliau ar y safle - penderfyniad sydd wedi cythruddo llawer yn lleol sydd yn poeni am effaith amgylcheddol y datblygiad.

Bellach mae dau gwmni arall Seventy Ninth Group wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr ar ddechrau'r wythnos hon - sef 79th Luxury Living Five a 79th Commercial Three Ltd.

Mae pencadlys Seventy Ninth Group ar barc busnes yn Southport. Ond mae’r swyddfa honno nawr ar gau, ac nid yw gwefan y cwmni yn bodoli erbyn hyn chwaith.

Ddiwedd mis Chwefror fe gyhoeddodd Heddlu'r Met yn Llundain fod pedwar o bobl wedi eu harestio fel rhan o ymchwiliad i "dwyll eang" honedig yn gysylltiedig â Seventy Ninth Group.

Dywedodd swyddogion eu bod wedi meddiannu "swm mawr" o arian parod, arfau, oriawr ddrud a gemwaith yn dilyn cyrchoedd mewn pum eiddo gwahanol.

Roedd y twyll honedig yn ymwneud â'r cwmni'n cynnig enillion uchel i fuddsoddwyr ar eu benthyciadau.

Cafodd y pedwar oedd wedi eu harestio eu rhyddhau ar fechnïaeth ac fe wnaeth Seventy Ninth Group "wadu'n bendant" eu bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu gyda Seventy Ninth Group am ymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.