Newyddion S4C

Pryder mam dyn ifanc a gafodd ei lofruddio am newidiadau i'r system gyfiawnder

Newyddion S4C

Pryder mam dyn ifanc a gafodd ei lofruddio am newidiadau i'r system gyfiawnder

Mae mam dyn 18 oed a gafodd ei lofruddio gan droseddwr ar brawf wedi dweud bod ganddi bryderon am newidiadau arfaethedig i'r system gyfiawnder.

Daw wrth i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gyhoeddi newidiadau - gan gynnwys cynlluniau i ryddhau rhai carcharorion ar ôl traean o'u dedfryd.

Mae Nadine Marshall, mam Conner Marshall, 18 oed, a gafodd ei lofruddio gan droseddwr ar brawf yn "bryderus iawn" y bydd y sefyllfa'n gwaethygu.

Ers ei farwolaeth ym mis Mawrth 2015 mae wedi ymgyrchu i wella'r system a'r gefnogaeth i ddioddefwyr.

"Dydw i ddim yn hyderus o gwbl [am y cynllun newydd]," meddai.

Cafodd 244 o droseddwyr oedd ar brawf eu cyhuddo o lofruddiaeth yng Nghymru a Lloegr dros gyfnod o bedair blynedd, yn ôl ystadegau sydd wedi eu rhannu gyda Newyddion S4C.

Mae’r ffigurau’n cyfateb i fwy nag un cyhuddiad o lofruddiaeth yr wythnos gan droseddwr dan oruchwyliaeth y gwasanaethau prawf rhwng Ionawr 2020 a Mawrth 2024.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod y Llywodraeth wedi “etifeddu system gyfiawnder troseddol sydd mewn argyfwng”. 

Dywedon nhw fod yr Arglwydd Ganghellor wedi amlinellu cynlluniau i "drwsio” y system, gan gynnwys buddsoddiad o hyd at £700 miliwn yn y Gwasanaeth Prawf.

Awgrymodd adolygiad annibynnol yn ymwneud â dedfrydu, gafodd ei gyhoeddi ddoe y dylid gwneud defnydd ehangach o wasanaethau prawf a’r trydydd sector, wrth reoli troseddwyr ar ôl eu rhyddhau o’r carchar.

Cafodd yr adolygiad, dan ofal y cyn Arglwydd Ganghellor Ceidwadol David Gauke, ei gomisiynu ar ôl i garchardai ledled Cymru a Lloegr gyrraedd eu capasiti, mwy neu lai, yr haf diwethaf.

Roedd yn cydnabod bod y gwasanaeth prawf hefyd "dan straen mawr" ar hyn o bryd.

Mae’r Arglwydd Ganghellor Shabana Mahmood wedi ymateb drwy gyhoeddi y “bydd y cynllun i oruchwylio troseddwyr yn cael ei ehangu’n sylweddol drwy ddefnydd cynyddol o dagio".

Y bwriad fydd ceisio osgoi anfon troseddwyr i garchar am lai na blwyddyn gyda dedfrydau cymunedol yn cael eu ffafrio. Bydd rhai troseddwyr yn cael eu rhyddhau'n gynnar o'r carchar os ydyn nhw’n dangos ymddygiad da tra’u bod nhw dan glo hefyd.

Ar ôl cael eu rhyddhau o’r carchar, mae’r Llywodraeth yn dweud y bydd cyfnod newydd o “oruchwyliaeth ddwys” yn golygu bod “degau o filoedd yn fwy o droseddwyr yn cael eu tagio a llawer mwy yn cael eu cadw dan amodau llym yn y cartref”.

Erbyn 2028/29, maen nhw'n addo y bydd cyllideb bresennol y Gwasanaeth Prawf o £1.6 biliwn "yn cynyddu'n sylweddol... gan ryw 45%".

Image
Conner Marshall
Conner Marshall

'Ddim yn hyderus'

Ond dywedodd Nadine Marshall fod ganddi bryderon am y newidiadau.

Cafodd Conner Marshall ei lofruddio gan David Braddon, troseddwr ar brawf, ym mis Mawrth 2015.

Roedd Braddon yn destun dau orchymyn cymunedol ar y pryd, ond roedd wedi ei gategoreiddio fel "troseddwr risg isel."

Roedd wedi’i gael yn euog o ddwy drosedd yn ymwneud â chyffuriau ac o ymosod ar Swyddog Heddlu, ond doedd y gwasanaeth prawf ddim yn ymwybodol ei fod wedi’i gael yn euog yn y gorffennol o guro partner.

Yn ystod y cwest i farwolaeth Conner, roedd y crwner yn feirniadol iawn o’r hyn ddisgrifiodd fel rheolaeth "druenus o annigonol" y Gwasanaeth Prawf o'r gweithiwr achos oedd yn  goruchwylio Braddon.

Dywedodd Nadine Marshall ei bod hi’n ofni, gyda mwy o garcharorion yn cael eu rhyddhau'n gynnar, na fydd modd rheoli'r llwyth gwaith er gwaetha’r buddsoddiad o £700 miliwn sydd wedi ei addo.

"Llenwi tyllau yn unig fydd yr arian,” meddai. 

“Dydy’r staffio ddim yno, dydy’r prosesau ddim yno, dydy’r  systemau ddim  yno i'r gwasanaeth prawf allu mynd i'r afael â'r llwyth gwaith sydd ganddynt.

“I wybod y bydd mwy o droseddwyr yn cael eu rhyddhau nawr. Bydd mwy o asesiadau risg sydd ddim yn cael eu gwneud, mwy o apwyntiadau'n cael eu methu. 

“Bydd yr holl faneri coch yma sydd wedi bod yno ers degawd ond maen nhw'n mynd i gael eu chwyddo.

"Mae'r problemau'n mynd i gael eu chwyddo... gan nad yw'r system yn addas i bwrpas fel y mae.”

'Pwysau sylweddol'

Mae undeb llafur Napo yn cynrychioli staff prawf. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyffredinol Ian Lawrence wrth Newyddion S4C ei fod ar y cyfan yn cefnogi’r cyhoeddiadau ddoe gan y Llywodraeth, ond mae’n rhybuddio bod yn rhaid buddsoddi’n ariannol mewn staff i sicrhau ei lwyddiant:

“Rydym wedi bod yn dweud ers tro, os yw’r system garchardai yn llawn -ac mae’n llawn -  yna mae’r gwasanaeth prawf yn llawn hefyd," meddai.

"A fydd y gwasanaeth prawf yn gallu ymdopi os fydd criw newydd yn cael eu rhyddhau’n gynnar yn y Gwanwyn y flwyddyn nesa? Dim ar y gyfradd bresennol o gynnydd.

“Ar hyn o bryd mae gennym ni system lle mae staff yn gweithio oriau sylweddol, o dan bwysau sylweddol a hynny er mwyn ceisio  ymdopi â'r sefyllfa fel ag y mae hi nawr.”

Ymateb

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder bod “ein meddyliau’n parhau gyda dioddefwyr y troseddau erchyll hyn a’u teuluoedd”.

“Bydd cynyddu £700m yn y cyllid prawf blynyddol, sef cynnydd o 45% yn y cyllid ar gyfer y gwasanaeth,” medden nhw.

“Bydd hyn yn caniatáu inni dagio a monitro degau o filoedd yn fwy o droseddwyr yn y gymuned. 

“Ac rydym ar y trywydd iawn i recriwtio 2,300 o swyddogion prawf erbyn mis Mawrth y flwyddyn nesaf.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.