Gyrrwr yn gwadu lladd baban mewn maes parcio yn Sir Benfro
Mae gyrrwr wedi gwadu lladd baban chwe mis oed a fu farw ar ôl cael ei tharo gan gar mewn maes parcio yn Sir Benfro.
Bu farw Sophia Kelemen o'i hanafiadau yn yr ysbyty ar 3 Ionawr, ddiwrnod wedi'r gwrthdrawiad ar lawr gwaelod maes parcio aml-lawr yn Ninbych-y-pysgod.
Ddydd Gwener, fe wnaeth Flaviu Naghi, 34 oed, bledio'n ddieuog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth Sophia Kelemen drwy yrru'n beryglus ac achosi marwolaeth drwy yrru'n ddiofal tra'r oedd o dan ddylanwad cyffuriau.
Siaradodd Naghi i gadarnhau ei enw yn unig yn y gwrandawiad yn Llys y Goron Abertawe.
Mae'r Barnwr Catherine Richards wedi gohirio'r achos, gan ei ryddhau ar fechnïaeth amodol.
Bydd yn ymddangos yn y llys nesaf ar 2 Mehefin ar gyfer ei achos llys, sydd i fod i bara am wythnos.