Newyddion S4C

Oes yn y carchar i ddyn 19 oed am lofruddio tad i saith

Corey Gauci / Colin Richards

Mae dyn yn ei arddegau wedi cael dedfryd o oes gydag o leiaf 24 mlynedd yn y carchar wedi iddo drywanu tad i saith o blant yn ardal Trelái yng Nghaerdydd y llynedd. 

Cafodd Corey Gauci, 19 o Grangetown, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener yn dilyn marwolaeth Colin Richards, 48 oed, ar 8 Ebrill 2024. 

Bu farw Mr Richards wedi iddo gael ei drywanu yn ei glun yn dilyn yr ymosodiad yn Nhrelái ddiwrnod yn gynharach. 

Fe aeth Gauci gyda James O’Driscoll, 27 oed, yno gyda’r bwriad o herio Christian Morgan ynghylch anghydfod rhyngddynt. 

Roedd Colin Richards, oedd yn dad i saith o blant, gyda Christian Morgan ar y pryd.

Cafodd y Gauci ac O’Driscoll eu gyrru i’r ardal gan fam O’Driscoll, Soraya Somerall. 

Roedd O’Driscoll wedi mynd â machete gydag ef ac fe redodd ar ôl Morgan wrth i Gauci ddifrodi car Colin Richards ac achosi’r anaf a'i laddodd.

Ar ôl yr ymosodiad, fe wnaeth Noreen O’Driscoll a Rebecca Ross gymryd yr arfau â chael gwared arnynt i geisio cuddio tystiolaeth.

Fe wnaeth Gauci ac O’Driscoll hefyd roi’r dillad yr oedden nhw’n eu gwisgo mewn bag a’u taflu, cyn gadael Caerdydd. Cafodd y ddau eu harestio yn Stroke-on-Trent dair wythnos yn ddiweddarach. 

Bu farw Colin Richards ar 8 Ebrill 2024 o ganlyniad i’w anaf.

'Canlyniadau difrifol'

Dywedodd Anthony Clarke o Wasanaeth Erlyn y Goron: “Roedd Corey Gauci a James O’Driscoll wedi arfogi eu hunain a’u bwriad oedd defnyddio trais wrth herio’r dynion.

“Roedd y tair menyw yn gwybod beth oedd wedi digwydd, ac fe wnaethant geisio cuddio tystiolaeth yn fwriadol.

“Mae chwifio cyllyll yn aml yn gallu arwain at ganlyniadau difrifol, ac yn anffodus, yn yr achos hwn, fe arweiniodd hynny at golli bywyd.

 “Rydym yn meddwl am deulu a ffrindiau Colin, sydd wedi dioddef colled enfawr, ac yn cydymdeimlo â nhw.”

Dedfrydwyd Gauci i garchar am oes, a gorchmynnwyd iddo aros yno am o leiaf 24 mlynedd.

Cafodd James O’Driscoll ddedfryd o bedair blynedd dan glo gyda chyfnod estynedig o flwyddyn ar drwydded, cafodd Soraya Somersall ddedfryd o ddwy flynedd a chwe mis yn y carchar.

Mae Noreen O’Driscoll wedi derbyn dedfryd o dair blynedd yn y carchar, ac fe gafodd Rebecca Ross ddedfryd o ddwy flynedd dan glo..

Cafodd Christian Morgan, 36, ddedfryd 12 mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd. Hefydd fydd rhaid iddo gwblhau 80 awr o waith di-dâl ac yn destun gofyniad gweithgaredd adsefydlu o 20 diwrnod.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.