Teyrngedau i gyn-chwaraewr rygbi Cymru Mark Jones sydd wedi marw yn 59 oed
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn-chwaraewr rygbi'r undeb Cymru a rygbi'r gynghrair, Mark Jones, sydd wedi marw yn 59 oed.
Y gred yw ei fod wedi dioddef trawiad ar y galon yn ei gampfa leol yn y Dwyrain Canol ddydd Iau.
Fe chwaraeodd Mark Jones dros Gymru yng Nghwpan Rygbi Cynghrair y Byd ym 1995, gan hefyd gynrycholi ei wlad ym 1996 ym mhencampwriaeth naw bob ochr y byd yn Ffiji.
Cyn hynny, fe ymddangosodd 15 gwaith dros dîm rygbi Cymru yn rygbi'r undeb tra'n chwarae i glwb Castell-nedd.
Wedi iddo ymddeol yn 2005, aeth ymlaen i hyfforddi clybiau Rotherham Titans, Aberafan a Dyfnant cyn symud i'r Dwyrain Canol.
Yno, roedd yn gweithio fel technegydd mewn labordy yn Ysgol Ryngwladol Abu Dhabi.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Clwb Rygbi Glyn Ebwy: "Mae pawb yn y clwb mewn sioc a'u calonnau wedi eu torri yn dilyn y newyddion o farwolaeth un o'n cyn-chwaraewyr ac un o arwyr y clwb, Mark Jones.
"Roedd cefnogwyr a chwaraewyr yn addoli Mark yn ystod ei gyfnod fel chwaraewr, ac hyd yn oed yn fwy ar ôl iddo adael.
"Roedd yn un o arwyr y gêm, ac mae ei farwolaeth yn gadael bwlch nad oes modd ei lenwi."
Ychwanegodd Clwb Rygbi Castell-nedd: "Mae cymuned y clwb wedi’i heffeithio’n fawr, ac mae ein meddyliau a’n gweddïau gyda theulu a ffrindiau Mark yn ystod yr amser anodd hwn.
"Nid yn unig oedd Mark yn gawr ar y cae, ond roedd hefyd yn ŵr bonheddig oddi arno."
Dywedodd Llywydd Rygbi'r Gynghrair yng Nghymru Mike Nicholas: "Fi oedd ei reolwr tîm gyda Chymru ym 1995 ac roedd yn gymeriad arbennig ar ein taith o gwmpas America.
"Roedd yn chwaraewr a'n gyd-chwaraewr ffantastig ac fe fydd yn cael ei fethu gan bawb oedd yn ei adnabod. Anfonaf fy nghydymdeimlad at ei deulu a'i ffrindiau."