Newyddion S4C

Llanddwyn: '15 digwyddiad mewn penwythnos' yn arwain at wahardd tanau a barbeciws

Llanddwyn.jpg

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyflwyno gwaharddiad llwyr ar farbeciws a thanau yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn, sydd yn cynnwys traeth Llanddwyn.

Mae’r cam hwn yn dilyn "15 digwyddiad cysylltiedig â thân", gan gynnwys defnyddio barbeciws, y bu swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymdrin â nhw y penwythnos diwethaf. 

Wedi Gŵyl y Banc ddiwedd mis Ebrill fe siaradodd nifer o drigolion lleol gyda Newyddion S4C am eu pryderon am danau'n cael eu tanio yn y goedwig ac ar y traeth.

Nod y gwaharddiad yw lleihau perygl tanau gwyllt meddai Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), ac mae’n berthnasol i bob rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch – gan gynnwys meysydd parcio a’r holl dir sy’n cael ei reoli gan CNC.

Bydd yr ardal ddynodedig ar gyfer barbeciws yn y maes parcio yn cael ei thynnu dros yr wythnosau nesaf a’i throi’n lle picnic yn unig. 

Mae tanau agored a gwersylla dros nos yn parhau i fod wedi’u gwahardd yn llwyr.

Mae tanau yn "peryglu cymunedau lleol, ac yn achosi niwed parhaol i gynefinoedd a bywyd gwyllt" meddai CNC.

Dywedodd Justin Hanson, Arweinydd Tîm Pobl a Lleoedd y Gogledd-orllewin i Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch yn safle poblogaidd sydd o bwys ecolegol. Rydym yn gwrando ar bryderon lleol ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i leihau risg.

“Gyda thywydd cynnes a sych yn cynyddu perygl tanau gwyllt, rydym yn gofyn i bawb barchu’r rheolau a helpu i amddiffyn yr hyn sy’n gwneud y lle hwn mor arbennig.

 “Atgoffir ymwelwyr i fynd â’u sbwriel adref gyda nhw, gadael dim ar eu hôl, dod â phicnic a pheidio byth â chynnau tân neu farbeciw – yn enwedig mewn cyfnodau sych. Dylid dilyn arwyddion lleol a rhybuddion tân bob amser.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.