
'Dychrynllyd': Tanau ar draeth Llanddwyn ym Môn yn achosi pryder
Ar benwythnos Gŵyl y Banc, mae trigolion lleol yn pryderu am y nifer o danau diweddar sydd wedi eu cynnau ar draeth Llanddwyn ar Ynys Môn.
Wedi cyfnod o dywydd braf, mae nifer o luniau wedi cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos tanau yn cael eu cynnal ar y traeth.
Mae Cathy Sands yn byw yn Niwbwrch, ac yn rhedeg grŵp Facebook gyda 1,000 o aelodau ar gyfer trigolion Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch.
Dywedodd Ms Sands wrth Newyddion S4C: "Mae’n warchodfa natur, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac wrth gwrs, mae hi’n mynd i fod yn brysur, mae’n fendigedig yna ond mae pobl yn cynnau tân yna ac maen nhw’n gwneud hynny o fewn y coed ac yn sgil hynny yn y goedwig.
"Roedd yn rhaid i dair injan dân fynd lawr yno yr wythnos diwethaf gyda cherbyd cefnogi i ddiffodd y tân. Mae o’n ddychrynllyd."
“Mae o’n gwneud fi’n swp-sâl. Mae yna gymaint o fywyd natur yna na fyddai’n gallu dianc os fyddai tân. Dwi a thrigolion eraill yn byw reit wrth ochr y goedwig felly os fyddai yna dân yn y goedwig, fyddwn i’n colli fy nghartref.
“Mae ein wardeiniaid lleol yn gwneud gwaith gwych ond mae’r nifer o bobl sy’n cynnau tân yma yn ofnadwy."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym ni wedi cyflwyno nifer o ddulliau i fynd i'r afael â thanau gwyllt yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol a Choedwig Niwbwrch ar Ynys Môn.
"Mae gennym ni staff yn bresennol yno yn ystod cyfnodau prysur gan gynnwys gwyliau banc a phenwythnosau yn ogystal â gyda’r hwyr.Rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu Gogledd Cymru i sicrhau bod unrhyw danau bwriadol yn cael eu riportio."

Daw hyn wedi i gynghorwyr glywed fod trigolion sy’n byw yn yr ardal Niwbwrch yn osgoi mynd i rai ardaloedd lleol lle mae gormod o dwristiaid.
Mae pobl leol wedi dweud eu bod yn osgoi ymweld â llefydd fel Llanddwyn a Choedwig Niwbwrch dros yr haf, am eu bod “mor brysur” a phroblemau traffig yn codi yn gyson ym mhentref Niwbwrch wrth i nifer yr ymwelwyr gynyddu yn ystod yr haf.
Cafodd sgil effeithiau gordwristiaeth eu codi mewn adroddiad i Bwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio Cyngor Môn.
Dywedodd yr adroddiad: “Mae pobol leol wedi adrodd nad ydyn nhw’n defnyddio’r goedwig na’r traeth yn ystod misoedd yr haf gan ei fod mor brysur ac oherwydd gor-dwristiaeth.
“Mae’r sefyllfa’n cael effaith niweidiol ar eu bywydau o ddydd i ddydd a’u lles.”