Newyddion S4C

Rhybudd am oedi pellach ar deithiau i Gaerdydd ar ôl i drên daro tractor

Gwrthdraiwad tren Sir Henffordd

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi rhybuddio teithwyr am oedi ar deithiau i Gaerdydd ar ôl i drên oedd ar ei ffordd i'r brifddinas o Fanceinion daro tractor yn Sir Henffordd, Lloegr.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar y trac yn Fferm Nordan, Llanllieni ychydig ar ôl 10.45 ddydd Iau.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod y brif linell rhwng Henffordd ac Amwythig yn parhau ar gau ddydd Gwener, gan arwain at oedi ar deithiau i Gaerdydd.

Mae llefarydd yn dweud eu bod yn cydweithio gyda Network Rail i ailagor y llinell ac ailddechrau gwasanaethau "cyn gynted â phosibl".

Mae gwasanaeth bws yn lle trên bellach ar waith ar gyfer teithiau rhwng Henffordd ac Amwythig.

Bydd tocynnau cwsmeriaid Trafnidiaeth Cymru hefyd yn ddilys i'w defnyddio gyda chwmnïau eraill yn ogystal â bws Stagecoach.

"Dylai cwsmeriaid barhau i wirio cyn iddynt deithio a byddwn yn edrych i ddarparu diweddariad pellach ganol dydd yfory," meddai llefarydd.

"Hoffem ddiolch i bawb am eu hamynedd a'u dealltwriaeth tra ein bod yn adfer ein gwasanaethau yn ddiogel."

Yn dilyn y digwyddiad, cafodd dyn 32 oed ei arestio ar amheuaeth o beryglu diogelwch ar y rheilffordd.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Henffordd a Chaerwrangon bod chwech o bobl wedi dioddef mân anafiadau.

Mae'r Heddlu Trafnidiaeth yn dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad i'r hyn ddigwyddodd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.