Caerdydd: Cau ffyrdd yng nghanol y ddinas dros y penwythnos
Bydd nifer o ffyrdd canol Caerdydd ar gau yn ystod y penwythnos yma wrth i'r ddinas groesawu rownd derfynol Cwpan Her Rygbi Ewrop, a rownd derfynol Cwpan Pencampwyr Investec.
Bydd Stadiwm Principality yn croesawu clybiau Caerfaddon a Lyon nos Wener, cyn i Northampton a Union Bordeaux Bègles ddod i chwarae yn y ddinas y diwrnod canlynol.
Bydd holl ffyrdd yng nghanol y ddinas ar gau o 16:00 ar nos Wener tan hanner nos, ac o 11:00 tan 19:00 nos Sadwrn.
Disgwylir hefyd y bydd y M4 yn brysur iawn oherwydd y nifer o gefnogwyr fydd yn teithio i wylio'r gemau.
Mae Heddlu'r De yn galw ar deithwyr i'r ddinas i gynllunio eu taith o flaen llaw, gan adael amser ychwanegol i deithio, a defnyddio cyfleusterau parcio a theithio lle bo'n bosibl.
Mae rhagor o ranylion am gau ffyrdd y ddinas ar wefan Cyngor Caerdydd.