Newyddion S4C

Gwraig Jonathan Edwards wedi ei 'siomi' gyda phenderfyniad Plaid Cymru

Wales Online 12/08/2022
jonathan edwards

Mae gwraig yr aelod seneddol Jonathan Edwards wedi ei 'siomi' bod Plaid Cymru wedi caniatáu iddo ddychwelyd i grŵp y blaid yn San Steffan. 

Daeth cadarnhad ddydd Mercher y byddai Jonathan Edwards yn cael cynrychioli Plaid Cymru unwaith eto fel aelod seneddol.

Dywedodd ei wraig, Emma Edwards, bod y cyhoeddiad yn awgrymu "nad ydy goroeswyr cam-drin domestig o bwys."

Cafodd AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr ei wahardd o Blaid Cymru am 12 mis yng Ngorffennaf 2020 wedi iddo dderbyn rhybudd gan yr heddlu am ymosod, a hynny yn dilyn digwyddiad yn y cartref teuluol.

Dywedodd Mrs Edwards hefyd ei bod hi'n difaru rhyddhau datganiad ar ôl y digwyddiad a oedd wedi cael ei ysgrifennu gan swyddog y wasg Mr Edwards. 

Ychwanegodd eu bod nhw yn y broses o gael ysgariad wedi bron i 10 mlynedd o briodas. 

Dywedodd Mrs Edwards ei bod hi wedi "dychryn ac yn siomedig bod y blaid yr oeddwn i'n aelod ohoni tan yn ddiweddar wedi derbyn rhywun sydd wedi cam-drin yn ddomestig i'w cynrychioli fel AS."

Mae Mr Edwards wedi dweud ei fod yn difaru ei ymddygiad.

Dywedodd Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds AS, bod "trais yn erbyn merched yn endemig a dylai pleidiau gwleidyddol a gwleidyddion sydd wedi eu hethol osod y safonau uchaf.

"Nid yw'n dderbyniol bod Jonathan Edwards wedi cael ei ganiatáu i gynrychioli Plaid Cymru yn San Steffan unwaith eto, ac os ydy'r blaid ac Adam Price o ddifrif am daclo trais yn erbyn merched, mae'n rhaid iddyn nhw ei ddiswyddo yn syth. 

"Mae Emma Edwards wedi bod yn ofnadwy o ddewr yn ei datganiad, ond ni ddylai fod wedi gorfod gwneud hyn."

Darllenwch fwy yma

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.