
'Snowdon' yn 'rhan o dreftadaeth ieithyddol Cymru'
'Snowdon' yn 'rhan o dreftadaeth ieithyddol Cymru'
Mae’r darlithydd a newyddiadurwr Ifan Morgan Jones wedi dadlau fod yr enw Saesneg, Snowdon, ar fynydd yr Wyddfa, yn ‘rhan o dreftadaeth ieithyddol Cymru’.
Daw ei sylwadau wrth i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri benodi is-bwyllgor i ystyried a ddylai yr enwau Saesneg, Snowdon a Snowdonia National Park gael eu hepgor.
Dywed y Parc y bydd yr Awdurdod yn ystyried argymhellion yr is-bwyllgor maes o law.
Yn ôl gwefan Parc Cenedlaethol Eryri, mae’r enw Snowdon yn deillio o’r geiriau Sacsonaidd, ‘snow dune’, sy’n golygu ‘snow hill’.
Oherwydd yr hanes yma, credai Ifan Morgan Jones fod y gair Snowdon yn rhan o hanes ieithyddol Saesneg yng Nghymru.

“Dwi’n llawn cydymdeimlo hefo’r rheiny sydd isho diogelu enwau llefydd Cymraeg ond dwi’m yn gwbod os mai mynnu ar enw uniaith i’r Wyddfa ydy’r ffordd ymlaen yn hynny o beth.
“Mae gan Cymru dreftadaeth ieithyddol Saesneg, yn ogystal, a dwi’n meddwl bod yr enw Snowdon, sy’n dyddio nôl tua 700 mlynedd, falle yn esiampl o hynny.
“Dwi’n cytuno yn llwyr fod angen gwrthwynebu i newid enwau Cymraeg i rai gwneud Saesneg,” meddai.
“Ond dwi’n meddwl pan mae’r enw Saesneg yn un hynafol iawn hefyd, dwi’m yn siŵr os dio’n syniad gwych cael gwared ohono fo.”
Ychwanegodd y newyddiadurwr ei fod yn ofni y byddai mynnu enw uniaith yn “gosod cynsail fydd yn tanseilio’r ffaith ein bod ni fel Cymry Cymraeg yn mynnu ar ddwyieithrwydd mewn cyd-destunau eraill.”
Cynnydd mewn chwiliadau Google
Yn ôl Google, mae nifer y chwiliadau ar gyfer ‘Welsh Name for Snowdon’ i fyny 850% ers ddydd Mercher, a 'How to Pronounce yr Wyddfa' i fyny 150%.
Mae’n debyg fod Snowdonia yn cael ei ddefnyddio’n hanesyddol i gyfeirio at ardaloedd lleol i’r Wyddfa, lle erbyn hyn mae’n cael ei ddefnyddio i gyfeirio at ardal eang y parc.
'Dim cynsail hanesyddol'
Mae Mr Jones yn dadlau byddai hepgor y gair hwn a defnyddio Parc Cenedlaethol Eryri yn unig yn benderfyniad ‘teg’.
Meddai: “Mae’r Parc Cenedlaethol, mae’n greadigaeth o bumdegau’r ganrif ddiwethaf ac er bod yr enw Snowdonia yn hynafol ar gyfer yr ardal o amgylch yr Wyddfa, does ‘na ddim cynsail hanesyddol i alw’r Parc Cenedlaethol yn Snowdonia wrth gwrs achos dim ond o bumdegau’r ganrif ddiwethaf mae’r parc cenedlaethol yn bodoli.”