Y person tu ôl i Maggi Noggi i gyflwyno ar Radio Cymru am y tro cyntaf

09/08/2022
Kristoffer Hughes / BBC Radio Cymru

Fe fydd Kristoffer Hughes, sy'n portreadu cymeriad Maggi Noggi, yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru am y tro cyntaf yr wythnos hon.

Fe fydd Kristoffer i’w glywed am y tro cyntaf nos Wener, 12 Awst pan fydd yn cyflwyno rhaglen Nos Wener Ffion Emyr. 

Mae Kristoffer yn adnabyddus am bortreadu cymeriad drag Maggi Noggi, ac wedi ymddangos mewn sawl rhaglen ar S4C, gan gynnwys Y Salon, Iaith ar Daith, Gwely a Brecwast Maggi Noggi a Sgwrs dan y Lloer. 

Mae Kristoffer hefyd yn Bennaeth Urdd Derwyddon Ynys Môn yn ogystal ag yn awdur a siaradwr gwadd mewn cynhadleddau a gwyliau Pagan ledled Ewrop ac yn America. 

Fe fydd amryw o gyflwynwyr eraill hefyd yn camu fewn i gyflwyno rhaglenni dros dro yn ystod yr haf, gan gynnwys Caryl Parry Jones, Nia Lloyd Jones, Mari Grug a Marc Griffiths.

Llun: BBC Radio Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.