Y Seintiau Newydd yn dweud bod un o'u chwaraewyr wedi ei gam-drin yn hiliol

Aramide Oteh

Mae'r Seintiau Newydd wedi dweud fod un o'u chwaraewyr wedi ei gam-drin yn hiliol gan un o ffans eu gwrthwynebwyr nos Fawrth.

Dywedodd y clwb eu bod yn condemnio’r cam-drin hiliol wedi'i anelu at Aramide Oteh gan aelod o'r dorf gartref yn dilyn y gêm.

Mae pencampwyr Cymru allan o Gwpan y Pencampwyr ar ôl colli o 2-1 yn erbyn Shkëndija yng Ngogledd Macedonia wedi amser ychwanegol.

Byddant nawr yn cystadlu yng Nghyngres Europa ar ôl colli eu lle ym mhrif gystadleuaeth Ewrop.

Mewn datganiad, dywedodd y clwb nad oes yna "unrhyw le ar gyfer hiliaeth - mewn pêl-droed neu gymdeithas.

"Mae pawb yn y clwb yn cynnig eu cefnogaeth lawn i Aramide ac yn sefyll ochr yn ochr ag ef."

Ychwanegodd y clwb eu bod yn "falch o gefnogi ymgyrch UEFA 'Na i Hiliaeth' ac yn parhau wedi eu hymrwymo i annog cydraddoldeb, parch a chynhwysiant ar ac oddi ar y cae."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.