Cymryd camau i atal ffans heb docynnau rhag gwylio gig Oasis ym Manceinion
Mae ffensys dur mawr wedi cael eu codi i atal ffans Oasis sydd heb docynnau rhag gwylio'r gig ym Manceinion.
Fe fydd Liam a Noel Gallagher yn parhau gyda'u taith ym Mharc Heaton nos Fercher, nos Sadwrn a nos Sul.
Roedd degau o filoedd wedi prynu tocynnau ar gyfer dwy sioe agoriadol Oasis yn y ddinas yr wythnos diwethaf.
Ond fe wnaeth torf ymgynnull y tu allan i safle'r gig mewn ardal oedd yn cael ei disgrifio fel 'Bryn Gallagher' ar y cyfryngau cymdeithasol.
Mae Cyngor Dinas Manceinion bellach wedi dweud fod rhagor o ffensys dur wedi cael eu codi o gwmpas rhannau o'r parc i atal pobl sydd heb docynnau rhag gwylio'r gigs, ac i warchod natur y parc.
"Ar ôl dadansoddi sut aeth y ddwy noson agoriadol, mae angen cymryd camau ychwanegol ac fe fyddan nhw yn eu lle ar gyfer y cyngherddau nesaf," meddai'r cyngor.
"Mae'r cam allweddol yma yn golygu na fydd y cyngerdd yn weladwy o'r ardal yma."
Bydd y ffensys yn gorchuddio ardal fawr o'r bryn o fewn cae gwartheg y parc, sy'n cael ei ddatblygu fel ardal goetir newydd gyda thua 300 o goed ifanc wedi'u plannu.
Bydd mwy na 2,000 o staff diogelwch digwyddiad a swyddogion heddlu hefyd ar ddyletswydd o gwmpas y safle "i sicrhau diogelwch a lles pobl â thocynnau, ac mai dim ond rhai â thocynnau sydd â mynediad i'r gig."