Tanni Grey-Thompson yn galw am hyfforddiant er lles pobl anabl mewn meysydd awyr
Dylai staff meysydd awyr a chwmnïau hedfan gael eu hyfforddi'n well er mwyn cefnogi teithwyr anabl.
Dyna mae tasglu a gafodd ei arwain gan y seren Baralympaidd o Gymru, y Farwnes Tanni Grey-Thompson yn dweud.
Mae’r grŵp a gafodd ei benodi gan Lywodraeth y DU yn galw am hyfforddiant sydd yn sicrhau y gall pobl anabl deithio ar awyrennau heb rwystrau ychwanegol.
Dywedodd y Gymraes bod yna “waith eto i’w wneud” ond ei bod yn “edrych ymlaen” at weld pob un o’r 19 o’r argymhellion a gafodd eu nodi yn eu hadroddiad yn cael eu gweithredu.
Dylai aelodau o griw awyrennau yn ogystal â gweithwyr mewn meysydd awyr dderbyn hyfforddiant o’r fath, meddai’r tasglu.
Maent yn dweud ei bod yn hanfodol fod teithwyr yn gallu cael gafael ar wybodaeth yn ddidrafferth – gan gynnwys sut allant ofyn am gymorth a ble y gallant ddod o hyd i wasanaethau i’w cefnogi yn ystod eu taith.
Dylai pobl hefyd dderbyn gwybodaeth fanwl ynglŷn â sut y bydd eu hoffer cymorth (‘mobility aids’) yn cael eu cludo.
Mae’r tasglu hefyd yn dweud bod angen sicrhau bod proses glir yn ei lle er mwyn galluogi pobl i wneud cwynion.
'Dod â rhyddid i deithio'
Fe fydd y grŵp bellach yn cydweithio gyda chwmnïau hedfan, meysydd awyr a rheoleiddiwr yr Awdurdod Hedfan Sifil er mwyn sicrhau newidiadau.
Dywedodd y Farwnes Tanni Grey-Thompson taw'r adroddiad yw’r “cam allweddol nesaf” i sicrhau bod hedfan yn hygyrch.
“Rwy’n ddiolchgar am yr ymrwymiad y mae’r diwydiant wedi’i ddangos i greu newid a chwalu rhwystrau yn y maes.”
Dywedodd y byddai’r newidiadau’n gallu “dod â rhyddid i deithio.”
Mae'r athletwraig wedi siarad yn agored am ei heriau wrth deithio yn y gorffennol. Eglurodd y llynedd iddi orfod cropian oddi ar drên yng ngogledd ddwyrain Llundain yng ngorsaf King’s Cross wrth iddo geisio cyrraedd y Gemau Paralympaidd ym Mharis, gan nad oedd unrhyw staff yno i'w helpu.
Dywedodd Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Heidi Alexander: “Dylai pawb allu teithio gydag urddas a chael eu parchu ym mhob cam o’u teithiau, gan gynnwys teithwyr anabl.”
Mae prif weithredwr Airlines UK, Tim Alderslade yn dweud ei fod wedi “ymrwymo” i gael gwared ag unrhyw rwystrau.
Dywedodd pennaeth Airports UK, Karen Dee y bydd yr adroddiad yn “adeiladu ar yr hyn sydd eisoes yn cael ei wneud.”
Llun: Ian West/PA Wire